only boys aloud
Cyn-aelodau Only Boys Aloud
Mae rhaglen Cyn-aelodau Only Boys Aloud ar gyfer cyn-aelodau o Only Boys Aloud sydd wedi graddio o OBA, naill ai i fynd ymlaen i astudio ymhellach neu i fyd gwaith, neu oherwydd eu bod wedi cyrraedd 20 mlwydd oed.
Byddwch bob amser yn rhan o Aloud!
Mae dros 1,000 o ddynion ifanc wedi ‘graddio’ o Only Boys Aloud ers inni ddechrau yn 2010.
Rydym mor falch o bob un ohonoch sydd wedi bod yn rhan o Aloud ac wedi creu atgofion rhyfeddol a gwneud ffrindiau oes ar hyd y ffordd.
Os ydych wedi bod yn rhan o’n stori, byddem wrth ein bodd yn cael cadw mewn cysylltiad â chi! Mae cofrestru fel cyn-aelod o OBA yn rhoi cyfle i i gyn-aelodau:
- Barhau â’ch perthynas gydag Aloud
- Cadw mewn cysylltiad ag eraill a oedd yn y côr gyda chi
- Clywed am gyfleoedd a digwyddiadau arbennig i gyn-aelodau
- Cael diweddariadau ar weithgareddau’r elusen drwy ein cylchlythyr cyn-aelodau
- Cael bathodyn arbennig i gofio eich amser yn y côr
Ydych chi'n gyn-aelod o OBA?
Ydych chi wedi bod yn aelod o’n Côr Only Boys Aloud, neu ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi? Cysylltwch â ni heddiw i roi gwybod. Byddai’n braf iawn cael cadw mewn cysylltiad â chi, a’ch helpu chithau i gadw mewn cysylltiad â’ch teulu Aloud.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon neges e-bost atom: [email protected].
Manteision bod yn Gyn-aelod
Cael gwybod am newyddion, digwyddiadau a pherfformiadau diweddaraf Aloud
Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau OBA
Cael eich cynnwys mewn cyfleoedd i gydganu yn y dyfodol
“Mae Only Boys Aloud wedi newid fy mywyd. Mae wedi rhoi cyfeiriad i mi mewn bywyd, a’r hyder i gredu ynof i fy hun a sylweddoli nad oes dim yn amhosib. Mae yna gyfleoedd i bob math o bobl o bob math o gefndiroedd.”
“Cefais gyfle i fynd i’r brifysgol yng Nghaergrawnt, a’r rheswm y penderfynais i aros yng Nghymru oedd er mwyn i mi allu parhau i ganu gydag Only Boys Aloud!”
"Don’t wait around. Join as soon as you can. If you are interest in music or want to pursue any career in the Arts, improving your singing is the best way to do it. The friends for life that you make are amazing and the experience that you get are once in a lifetime. They’re memories which you will cherish forever.”
"My ambitions as a teenager were to either be on stage or be behind the scenes working in the west end or internationally. If it wasn't for OBA bringing out my confidence drive and the passion to achieve anything, I wouldn't be a professional sound engineer today. "
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.