Yr Hyn a Wnawn

Rydym ni’n ymwneud â phobl ifanc yng Nghymru gan ddefnyddio pŵer cydganu. Cynhaliwn weithgareddau a all newid bywydau, sy’n hybu hunan-gred ac yn meithrin doniau, gan roi i blant a rhai yn eu harddegau y dyhead, y sgiliau bywyd a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni’u potensial.

Only Boys Aloud
11-19 OED

Only Boys Aloud

Mae dros 200 o fechgyn o bob cwr o Gymru yn rhan o OBA, ac ar hyn o bryd dyma’r prosiect mwyaf sy’n cael ei hwyluso gennym. Cewch wybod mwy am gorau OBA ac Academi blynyddol OBA a darllen astudiaethau achos ein Cyn-aelodau.
8-13 OED

Only Kids Aloud

Mae OKA yn cwmpasu ein holl waith gyda phlant oed cynradd. Mae’r rhain yn cynnwys Corws OKA, Aloud in the Classroom a Chyn-aelodau Only Kids Aloud. Cewch ddysgu mwy am sut rydym ni’n gweithio gyda’n haelodau ieuengaf.
Only Kids Aloud
13-19 OED

Gweithgareddau i Ferched

Fel Sefydliad Celfyddydol, rydym ni’n tyfu ac yn newid o hyd. Darllenwch am y cynlluniau sydd gennym ar y gweill ar gyfer gweithgareddau i ferched ifanc yng Nghymru, a dysgwch am y gweithgareddau rydym eisoes wedi’u sefydlu.

Gweithgareddau Eraill

Rydym yn falch o gynnal nifer o weithgareddau ychwanegol, gan roi i’n cyfranogwyr a chynulleidfaoedd newydd y cyfle i gael profiadau unigryw a chwrdd â gwahanol gymunedau.
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.