Polisïau Elusen Aloud

Ein Polisïau

Mae gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb i fabwysiadu, monitro ac adolygu polisïau Elusen Aloud. Caiff pob polisi ei adolygu’n flynyddol, gyda gwahanol bolisïau’n cael eu hystyried yng nghyfarfodydd chwarterol y bwrdd. Mae’r staff yn ymwneud â datblygu ac adolygu polisïau cyn eu cyflwyno i’r Ymddiriedolwyr.

Polisi Urddas yn y Gweithle

Rydym wedi ymrwymo’n llawn i gynnal amgylchedd gweithio cadarnhaol lle mae pawb yn cefnogi’i gilydd, ac lle nad oes aflonyddu, bwlio nac erledigaeth. Mae’r polisi hwn yn disgrifio ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.

Polisi Amgylcheddol

Mae Elusen Aloud wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gweithgareddau’n cael yr effaith leiaf ar yr amgylchedd. Mae’r polisi hwn yn dangos sut byddwn yn gwella ein perfformiad i sicrhau cynaliadwyedd ein gweithgareddau.

Polisi Codi Arian yn Foesegol

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl weithgareddau a mentrau codi arian yn cael eu cynnal mewn ffordd foesegol. Mae’r polisi hwn yn disgrifio ymagwedd yr elusen at godi arian ac yn rhoi arweiniad ar arferion gorau.

Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei gweithleoedd ac yn ystod darparu gwasanaethau. Ein nod yw bod ein gwaith yn adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a bod pawb sy’n gweithio gyda ni yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i ffynnu.

Polisi Rheoli Data

Mae angen i Elusen Aloud gasglu a defnyddio gwybodaeth benodol am unigolion. Mae’r polisi hwn yn disgrifio sut y caiff y data personol yma ei gasglu, ei drin a’i storio mewn ffordd sy’n bodloni safonau diogelu data’r cwmni ac yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Book a Choir

Polisi Iechyd a Diogelwch

Mae Elusen Aloud wedi ymrwymo i gynnal safonau iechyd a diogelwch uchel. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno sut rydym yn diogelu iechyd a diogelwch y rhai sy’n gweithio gyda ni.

Polisi Diogelu

Diogelu plant, pobl ifanc a phobl fregus eraill yw prif flaenoriaeth Elusen Aloud. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno sut rydym yn creu mannau diogel i’n holl aelodau, gwirfoddolwyr a staff.

Polisi Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i waith Elusen Aloud. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno’r egwyddorion a’r arferion sydd gennym ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr.

Polisi’r Gymraeg

Mae Elusen Aloud yn deall ac yn dathlu natur ddwyieithog diwylliant Cymru. Mae’r polisi hwn yn disgrifio sut byddwn yn ymwneud â’r Gymraeg ac yn annog ei defnydd drwy ein gwaith.