Trefnu Cyfraniadau Rheolaidd (y tu allan i’r Deyrnas Unedig)
Rydym wrth ein bodd o gael cefnogaeth cyfeillion ym mhedwar ban byd. Er mai i gefnogwyr yn y Deyrnas Unedig yn unig y gallwn drefnu i dderbyn rhoddion drwy Ddebyd Uniongyrchol, gallwn yn awr dderbyn cyfraniadau ar ffurf Taliadau Rheolaidd o’ch cerdyn talu cysylltiedig. I gael mwy o wybodaeth am sut gallech gefnogi Elusen Aloud, ewch i’n tudalen Cefnogwch Ni neu cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.