Cyfrannu drwy Neges Destun
Mae cyfrannu i Elusen Aloud drwy neges destun yn ffordd gyflym a hawdd i helpu i ddarparu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc yng Nghymru.
Bydd eich cyfraniad yn cael ei ychwanegu i’ch bil ffôn neu’i dynnu o’ch credyd talu wrth fynd. Donr sy’n darparu ein gwasanaeth neges destun. Os hoffech gyfrannu swm gwahanol i Elusen Aloud, ewch i’r Dudalen Cyfrannu.
I wneud cyfraniad unigol o £10, tecstiwch ALOUD 10 i 70085.
I gyfrannu £4 y mis, tecstiwch ALOUD i 70450.
I wneud cyfraniad unigol o £20, tecstiwch ALOUD 20 i 70085.
Y Print Mân
Mae ffi o 5% yn cael ei godi ar Elusen Aloud (Rhif Elusen Gofrestredig: 1147922) am ddefnyddio’r gwasanaeth tecstio i gyfrannu. Ni chaiff TAW ei godi ar eich cyfraniad. Ar gyfer rhoddion unigol, mae testunau’n costio’r swm rhodd ynghyd ag un neges cyfradd rhwydwaith safonol. Ar gyfer rhoddion rheolaidd, mae testunau’n costio swm y rhodd ynghyd â dwy neges safonol ar gyfradd rhwydwaith.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich cyfraniad yn ymddangos fel ‘Donr.com’ neu debyg iawn, os yw’n ymddangos ar eich bil ffôn neu gyfriflen banc.
Mae tecstio un o’n geiriau allweddol i 70450 neu 70085 yn golygu y byddwch yn dewis clywed mwy am ein gwaith a’n gweithgarwch codi arian. Os hoffech roi £4 ond yn dymuno peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata, tecstiwch ALOUDNOINFO i 70450. Os hoffech roi cyfraniad unigol o £10 neu £20 ond yn dymuno peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata, tecstiwch ALOUDNOINFO 10 neu ALOUDNOINFO 20 i 70085.
Cyfraniad Wedi Methu?
Yn achlysurol, mae cyfraniadau neges destun yn methu. Gall fod nifer o resymau am hyn, fel diffyg credyd ffôn neu gyfyngiad wedi’i osod gennych chi neu gan y rhwydwaith ar faint allwch chi ei ychwanegu i’ch bil ffôn symudol.
Os yw cyfraniad yn methu, byddwch yn derbyn neges yn cynnig opsiynau eraill o sut gallwch gyfrannu. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi defnyddio’r gair a’r rhif cywir yn eich neges destun. I gael cymorth ynglŷn â chyfraniad sydd wedi methu, cysylltwch â ni.
Pwy all gyfrannu?
Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn i wneud cyfraniad drwy neges destun.
Noder y gallwch chi gyfrannu gan ddefnyddio’r gwasanaeth SMS hwn o ffôn symudol y Deyrnas Unedig yn unig. Ni allwch gyfrannu gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn o ffôn symudol Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw nac unrhyw le arall y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n cyfrannu gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn o ffôn symudol y Deyrnas Unedig pan fyddwch y tu allan i Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallai taliadau rhwydwaith eraill gael eu codi arnoch a’u cadw gan weithredwr y rhwydwaith.
Rhaid i chi gael caniatâd y sawl sy’n talu’r bil cyn anfon neges destun.
Rhodd Cymorth
Os ydych yn drethdalwr yn y Deyrnas Unedig, gallai eich cyfraniad fod yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth a byddwch yn derbyn ail neges destun yn rhoi’r manylion. Mae hyn yn golygu y gallwn hawlio 25c o Rodd Cymorth oddi wrth y Llywodraeth am bob £1 a gyfrannwch.
Diogelu Data
Bydd unrhyw ddata personol sy’n cael ei ddal gennym yn cael ei drin yn unol â deddfau preifatrwydd perthnasol a datganiad preifatrwydd Elusen Aloud sydd i’w weld fan yma.
Sut i ddad-danysgrifio
I ganslo cyfraniadau rheolaidd a wnaed drwy neges destun, tecstiwch STOP i 70085.
Noder: Os ydych eisiau atal y cyfraniad am un mis yn unig, gallwch decstio SKIP i 70085.
Os nad ydych eisiau derbyn unrhyw gyfathrebiadau ffôn symudol pellach oddi wrth Elusen Aloud o gwbl yn y dyfodol, cysylltwch â ni.