Cyfrannu drwy PayPal

Dewiswch Elusen Aloud fel eich ffefryn a rhoi £1 wrth y ddesg dalu!

PayPal Donate

Os ydych yn defnyddio PayPal i wneud eich siopa ar-lein, mae nawr yn bosib ichi gefnogi Elusen Aloud yr un pryd!

Bob tro y byddwch yn prynu rhywbeth ar-lein gan ddefnyddio PayPal, gallwch ddewis wneud cyfraniad os ydych yn dymuno. Gallwch ein cefnogi gan roi unrhyw swm dros £1 y dymunwch, a bydd 100% o’ch cyfraniad yn dod yn syth atom ni!

Mewn ychydig gliciau, gallwch hefyd ein gosod fel eich ‘hoff elusen’, fel y gallwch ychwanegu cyfraniad cyflym at eich siopa pryd bynnag y dymunwch. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cyfrif PayPal – gallwch gyfrannu ar unrhyw ddyfais wrth ichi siopa.

Sut i Gychwyn Arni

1
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i PayPal ac ewch i’r dudalen hon.
2
Cliciwch ar “set as favourite charity’’ ar frig y dudalen er mwyn dewis ‘The Aloud Charity’ yn hoff elusen.
3
Ewch i’r ddesg dalu a dewiswch faint rydych chi’n dymuno ei gyfrannu (nid oes rhaid i chi gyfrannu unrhyw beth, ond os hoffech wneud, y lleiafswm yw £1 ac nid oes mwyafswm).
4
Cliciwch ar ‘’Donate Now’’ a dyna ni! Ymlaen â chi!

Manteision Cyfrannu Wrth Siopa

Cofrestru’n Gyflym a Hawdd

Ychydig eiliadau’n unig mae’n ei gymryd i ddewis Elusen Aloud! Wedi iddyn nhw gael eu gosod, bydd Paypal Donate yn cofio eich gosodiadau ac fe gewch ddewis a ydych am gyfrannu wrth y ddesg dalu!

Dim ffi na chost

Mae PayPayl Donate yn ychwanegu’r swm o’ch dewis  at eich bil terfynol.

Mae’r cyfraniadau’n cael eu hanfon yn awtomatig

Mae’r holl gyfraniadau sy’n cael eu creu gan Paypal Donate yn cael eu prosesu’n awtomatig a’u hanfon yn uniongyrchol atom ni, felly does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall!