Gwybodaeth i Rieni
Atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a gawn am ymuno â chôr, ymarferion a pherfformiadau.
Ymuno â Chôr
Sut ydw i’n ymuno?
I gofrestru eich diddordeb mewn ymuno â Chôr Only Boys Aloud, anfonwch e-bost atom ar [email protected]. Gallwn anfon gwybodaeth i chi am eich côr agosaf er mwyn i chi gael ymuno. Hefyd, cymerwch olwg ar ein Tudalen corau.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â Chorws Only Kids Aloud, anfonwch e-bost i [email protected]. Caiff dyddiadau’r clyweliadau blynyddol eu cyhoeddi ar ein cyfryngau cymdeithasol a’u rhestru ar ein tudalen Digwyddiadau fan yma.
I gael mwy o wybodaeth am ymuno â gweithgareddau eraill, cysylltwch â ni ar [email protected] ac fe wnawn ni anfon yr holl wybodaeth berthnasol i chi.
Oes rhaid i mi gael clyweliad?
Mae gennym ni wahanol brosesau yn dibynnu ar ba gôr rydych chi’n ymuno ag ef.
Ar gyfer Only Boys Aloud, nid oes rhaid i chi gael clyweliad er mwyn ymuno. Rydym ni’n cynghori rhieni i gysylltu â ni’n gyntaf, ond mae modd i chi fynd i’ch ymarfer lleol ac ymuno. Nid oes angen profiad blaenorol!
Bydd angen i chi gael clyweliad ar gyfer Corws Only Kids Aloud. Caiff dyddiadau’r clyweliadau blynyddol eu cyhoeddi ar ein cyfryngau cymdeithasol a’u rhestru ar ein tudalen Digwyddiadau fan yma. Fel arall, cysylltwch â ni i fynegi eich diddordeb.
I gael gwybodaeth am gael clyweliad ar gyfer unrhyw weithgareddau eraill, cysylltwch â ni.
Oes rhaid i mi allu darllen cerddoriaeth?
Na, ddim o gwbl.
Yng nghorau Only Boys Aloud a Chorws Only Kids Aloud, rydym ni wastad yn gweithio â cherddoriaeth ddalen a byddwch yn dysgu darllen cerddoriaeth gydag amser.
Ar ba oedran allaf i ymuno?
Gallwch ymuno ag unrhyw un o gorau Only Boys Aloud pan fyddwch chi ym Mlwyddyn 7 (11 oed) ac aros hyd nes i chi adael yr ysgol yn 19.
Mae angen i chi fod rhwng 8 ac 11 i ymuno â Chorws Only Kids Aloud, sydd wedi’i greu’n benodol i blant oed cynradd.
Beth yw'r ffi i ymuno?
Nid oes ffi i fod yn aelod o Only Boys Aloud – mae am ddim yn llwyr. Fe wnawn ni hyd yn oed drefnu cludiant er mwyn i chi fynd i’r ymarferion llawn neu berfformio mewn digwyddiadau.
Mae rhai costau’n gysylltiedig ag ymuno â Chorws Only Kids Aloud, ond mae’r rhain wedi’u cymorthdalu’n sylweddol ac mae lleoedd ar gael ar fwrsariaeth. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Ymarferion
Sut ydw i’n gwybod ble mae’r ymarferion?
I ganfod ble mae’r ymarferion Only Boys Aloud agosaf i chi yn cael eu cynnal, ewch i dudalen Dod o Hyd i’ch Côr Agosaf i ganfod lleoliad a chyfeiriad pob côr. Fel arfer, bydd ymarferion OBA yn cael eu cynnal mewn Neuaddau Cymunedol a Chlybiau Chwaraeon lleol.
Mae gan Gorws Only Kids Aloud gwrs preswyl sy’n cael ei gynnal yng Nghymru bob blwyddyn. Yn flaenorol, rydym ni wedi aros yng Nghanolfannau Preswyl yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog er mwyn cynnal gweithgareddau OKA.
Mae gweithgareddau corawl eraill, fel Only Fitzalan Aloud a Aloud in the Classroom, yn cael eu cynnal yn yr ardal leol, mewn Neuadd Gymunedol neu ysgol er enghraifft.
Beth yw’r ymrwymiad?
Mae Only Boys Aloud yn ymarfer bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol ac yn cymryd saib dros wyliau ysgol. Rydym ni’n disgwyl i’r aelodau fynychu cymaint o ymarferion â phosib. Wrth gwrs, bydd adegau pan na fyddwch chi’n gallu dod i ymarfer, ac os felly rydym ni’n disgwyl i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw. Gallwch roi gwybod i ni’n hawdd drwy gysylltu â swyddfa Aloud.
Mae Only Kids Aloud yn ymarfer bob ychydig fisoedd ac rydym ni’n disgwyl i’r aelodau fod yn bresennol yn holl weithgareddau OKA. Serch hynny, rydym ni’n deall y gallai fod yn amhosib i aelod fod yn bresennol ac os felly, gallwch gysylltu â swyddfa Aloud i drafod gyda’r Rheolwr Prosiect. Fe fyddwch chi’n derbyn dyddiadau arfaethedig yr holl ymarferion wrth i chi gymryd eich lle yn y Corws.
Pa fath o ganeuon mae OBA ac OKA yn eu perfformio?
Rydym ni’n canu repertoire eang ar draws ein holl weithgarwch – o ganeuon pop a chaneuon o sioeau cerdd i ganeuon traddodiadol o Gymru.
Ga i ddod am sesiwn flasu cyn ymrwymo i ymuno?
Gydag Only Boys Aloud, gallwch ddod i ymarfer i weld sut beth yw cyn ymuno’n ffurfiol. Cewch groeso mawr! Dewch o hyd i’ch côr lleol fan yma.
Prosiect sy’n digwydd yn flynyddol yw Only Kids Aloud, a byddwn yn cynnal clyweliadau ymlaen llaw.
I gael blas ar sut beth yw bod yn rhan o weithgareddau Aloud, beth am fynd i’n sianel YouTube i weld rhai o’n perfformiadau.
Perfformiadau
Pryd allaf i berfformio mewn cyngherddau?
Mae pawb yn dysgu ar gyflymder gwahanol felly mae’n well holi eich Arweinydd Côr ynglŷn â pha mor barod ydych chi i berfformio. Gydag OBA, rydym ni’n argymell mynd i o leiaf 6 ymarfer yn gyntaf.
Mae ein Harweinyddion Corau yn gantorion a cherddorion proffesiynol, ac fe fyddan nhw’n gallu darparu’r arweiniad a’r hyfforddiant mwyaf addas i’ch lefel chi.
Rydym ni’n gweithio fel tîm ac yn dysgu ar gyflymder i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynnwys.
Oes rhaid i mi dalu i gymryd rhan mewn perfformiad?
Na, does byth ffi i’w thalu er mwyn i chi berfformio.
Oes rhaid i mi gymryd rhan mewn perfformiadau?
Nid oes rhaid i unrhyw aelod o gorau OBA nac OKA gymryd rhan mewn perfformiadau – fyddwch chi byth yn cael eich gorfodi i wneud! Serch hynny, rydym ni’n DWLU ar berfformio, ac wastad yn ymdrechu i roi profiadau gwych i’n holl aelodau i berfformio mewn lleoedd anhygoel. Heb os, cyffro perfformio yw un o uchafbwyntiau bod yn aelod.
Ac nid ni’n unig sy’n dweud hynny – ewch i’n blog i ddarllen astudiaethau achos o Gyn-aelodau Aloud.
Beth fydd yn rhaid i mi wisgo i berfformio? Oes gwisg benodol?
Yn achos Only Boys Aloud, mae gennym ni ddwy ‘wisg’ – ar gyfer perfformiadau llai ffurfiol, fel arfer byddwn ni’n gwisgo jîns glas neu ddu, esgidiau ymarfer a chrys gwyn llewys hir. Mewn perfformiadau mwy ffurfiol, byddwn ni’n gwisgo trowsus du, sanau du, esgidiau du a chrys gwyn llewys hir. Rydym ni bob amser yn darparu tei i bob aelod pan fydd hynny’n berthnasol.
Mae’r wisg yn debyg ar gyfer Academi OBA.
Mae Corws Only Kids Aloud yn perfformio mewn crys-t wedi’i frandio, jîns ac esgidiau ymarfer.
Nid oes gwisg benodol ar gyfer unrhyw weithgareddau eraill Aloud.
Faint o ymarferion sydd bob tymor?
Yn Only Boys Aloud, bydd tua 10 o ymarferion OBA bob tymor (tua 30 o ymarferion y flwyddyn). Fel arfer, dydyn ni ddim yn ymarfer yn ystod gwyliau’r haf, y Nadolig na’r Pasg. Yn ogystal ag ymarferion wythnosol, yn achlysurol fe fydd ymarferion rhanbarthol a llawn a allai gael eu cynnal ar benwythnosau.
I gael mwy o fanylion am ein gweithgareddau eraill, gan gynnwys ymarferion OKA, cysylltwch â ni. Mae nifer yr ymarferion ar gyfer prosiectau cylchol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
A yw’r corau’n teithio?
Ydyn. Mae’n rhan bwysig o brofiad Aloud ein bod ni’n cael ymweld â lleoedd newydd! Rydym ni wedi perfformio ledled Prydain, gan gynnwys Llundain, Nottingham, Birmingham, ac ar long fordeithio hyd yn oed! Rydym ni’n perfformio’n rheolaidd ledled de a gogledd Cymru ac wedi teithio dramor hyd yn oed – i Wlad Belg, Ffrainc a Disneyland Paris.
Er y byddem ni’n dymuno gallu teithio ledled y byd bob amser, mae’n rhaid i ni gynllunio ein teithiau rhyngwladol yn ofalus. Gall teithiau ychwanegol fod yn ddrud, ac rydym ni wastad yn rhoi blaenoriaeth i lesiant aelodau ein corau – disgyblion ysgol yw mwyafrif helaeth ein haelodau ac yn aml bydd ganddyn nhw ymrwymiadau eraill hefyd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu côr i ddod i berfformio mewn digwyddiad yn eich ardal chi, cliciwch fan yma i gael gwybodaeth.
I ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi er mwyn i chi glywed ein corau’n perfformio, ewch i’n tudalen Beth Sydd Ymlaen.
Sut allaf i ymarfer y caneuon gartref?
Mae ymarfer yn syniad gwych! Ar gyfer y rhan fwyaf o weithgarwch corau Aloud, mae gennym ni Ystafell Ymarfer ar-lein lle gallwch chi gael mynediad i’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch chi i ymarfer eich caneuon. Fe gewch chi’r ddolen pan fyddwch chi’n ymuno.
Beth fydd yn digwydd os na allaf i ddod i ymarfer?
Cysylltwch â swyddfa Aloud i roi gwybod i ni.
A fydd angen trwydded berfformio arnaf i er mwyn cymryd rhan mewn perfformiad?
Os ydych o oedran ysgol gorfodol (16 oed neu iau) bydd gofyn i chi gael trwydded berfformio i berfformio mewn rhai digwyddiadau. Mae hyn yn dibynnu ar y math o berfformiad dan sylw. Os bydd angen trwydded unigol, bydd ein swyddfa yn anfon y gwaith papur perthnasol i chi. Gofynnwn i chi fod yn brydlon wrth lenwi’r gwaith papur oherwydd ni fydd unrhyw un heb drwydded yn cael perfformio.
Os byddaf i ar wyliau yn ystod perfformiad neu ymarfer pwysig, a fyddaf i’n colli fy lle yn OBA neu OKA?
Na, ni fyddwch chi’n colli eich lle, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym ni ymlaen llaw. Gallwch gysylltu â swyddfa Aloud fan yma.
Ydych chi’n darparu cludiant i ymarferion a digwyddiadau?
Yn achos Only Boys Aloud, mae cludiant yn cael ei ddarparu i’r ymarferion llawn ac i ddigwyddiadau mawr. Bydd angen i chi drefnu eich ffordd eich hun i ymarferion lleol bob wythnos ac weithiau os bydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn lleol, efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu eich ffordd eich hun yno.
Yn achos Only Kids Aloud, mae cludiant weithiau’n cael ei ddarparu ond yn dibynnu ar y lleoliad a’r digwyddiad.
Bydd y manylion llawn a’r opsiynau ar gyfer yr holl drefniadau teithio yn cael eu darparu yn ystod ymarferion yn y cyfnod cyn unrhyw ddigwyddiad.
Ga i ddod â ffrind i ymarfer?
Os oes gennych chi ffrind sydd â diddordeb mewn ymuno ag Only Boys Aloud, mae croeso mawr i chi ddod â nhw gyda chi! Rydym ni wrth ein bodd yn cwrdd â ffrindiau newydd. Dewch o hyd i’ch côr lleol fan yma.
Gan fod gofyn cael clyweliad i fod yn rhan o Only Kids Aloud, yn anffodus ni fydd modd i chi ddod â ffrind i’r ymarferion, ond efallai y gallan nhw gael clyweliad y flwyddyn nesaf, neu gymryd rhan yn un o weithgareddau eraill Aloud. Gofynnwch i’w rhiant neu warcheidwad gysylltu â ni i drafod ffyrdd i gymryd rhan.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.
Gwirfoddoli Gyda Ni
Ein gwirfoddolwyr hyfryd sy’n dal ein holl weithgarwch ynghyd. Hebddyn nhw, ni fyddai ein hymarferion a’n digwyddiadau’n bosib.
Newyddion a Digwyddiadau
Beth Sydd ar y Gweill?
- Ymarferion
- Ymarferion