Ein Hymrwymiad i Gynhwysiant Traws a Hunaniaeth Rhywedd

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae Elusen Aloud wedi ymrwymo i wneud ein gwasanaethau mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. 

Rydym yn ceisio sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein gweithgareddau yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin â pharch beth bynnag yw eu gallu, oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu gefndir economaidd-gymdeithasol. 

Ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc sy’n briodol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy (lle nad ydynt am ddim).

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ein hymagwedd at gynhwysiant traws a hunaniaeth rhywedd. 

 

Corau rhywedd-benodol

Rydym yn cydnabod bod ein gweithgareddau ar gyfer rhai 11-20 oed y tu allan i’r ysgol wedi’u gwahanu ar sail rhywedd. 

Fel elusen, credwn mai’r ffordd orau i ddiwallu anghenion ein cyfranogwyr o oedran ysgol uwchradd yw drwy weithgarwch ar wahân ar sail rhywedd. 

Gwnawn hyn am ein bod yn credu ei bod yn bwysig i fechgyn a merched gael eu gofodau ar wahân i archwilio eu dawn gerddorol, datblygu eu sgiliau cerddorol a dod o hyd i’w llais. Yn nhirwedd gerddorol ehangach Cymru, gwyddom fod digon o gyfleoedd i bobl ifanc ganu gyda’i gilydd mewn corau lleisiol cymysg yn yr ysgol a’r tu allan. Rydym am greu mannau diogel sy’n meithrin pobl ifanc i fod yn nhw eu hunain ac felly mae’r ffyrdd rydym yn cynnig gweithgareddau yn wahanol ar gyfer bechgyn a merched. Mae hyn yn caniatáu inni gefnogi pobl ifanc mewn gwahanol ffyrdd, gan ymgynghori’n rheolaidd â nhw, i’w galluogi i ffynnu. 

Yn benodol, mae bechgyn yn aml yn mynd trwy gyfnod lle mae eu llais yn newid yn sylweddol yn eu glasoed ac yn cael llai o gyfleoedd i barhau i ganu. Maen nhw’n cael eu cynghori i feimio neu ail-ymuno â grwpiau unwaith y bydd eu llais wedi setlo. Rydym yn gweithio gyda bechgyn drwy gydol eu harddegau i’w cefnogi drwy’r newid yma, gan weithio gydag arweinwyr corau sydd â phrofiad uniongyrchol o hyn er mwyn gallu cynnig arweiniad a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae ein tîm o Arweinwyr Cymunedol hefyd yn darparu cymorth bugeiliol i’n pobl ifanc. 

Yn ystod 2021/22, yn dilyn trafodaethau gyda merched ifanc, fe wnaethom gychwyn ar brosiect peilot yn benodol ar gyfer merched yng Nghaerdydd. Yn dilyn llwyddiant y prosiect, gwnaethom benderfyniad bwriadol i dyfu’r maes hwn o waith yn raddol, gan gydnabod ein bod mewn cyfnod datblygu cynharach a byddwn yn gwneud hyn heb gyfaddawdu ar ein portffolio presennol o gorau bechgyn. 

Rydym yn cydnabod, yn enwedig yng ngoleuni Covid-19, y bu gostyngiad yn nifer y bechgyn sy’n manteisio ar y cyfle i ganu, ynghyd â chynnydd mewn pryderon ynghylch iechyd meddwl bechgyn yn ogystal ag iechyd meddwl pobl ifanc yn fwy cyffredinol. Rydym eisiau bod y sefydliad sy’n gatalydd ar gyfer newid yn y maes hwn, gan helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w llais mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chroesawgar. 

Rydym eisiau cynorthwyo unrhyw un i fynychu’r côr y maen nhw’ teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei fynychu o ran eu hunaniaeth rhywedd. Mae arweinwyr ein corau a’n harweinwyr cymunedol wedi’u hyfforddi i fod yn gynnil a chefnogol mewn unrhyw sefyllfa unigol. Ein nod yw bod yn ofod cynhwysol, croesawgar sy’n cefnogi gwahaniaeth a pherthyn.

Gwyddom y bydd pob sefyllfa’n wahanol ac, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen mwy o wybodaeth arnoch na’r hyn sy’n cael ei rhoi fan yma. Rydym yn annog unrhyw ddarpar aelodau yn ogystal â rhieni / gwarcheidwaid i gysylltu â ni os oes angen cyngor mwy penodol arnoch ar sut y gallem eich cynnwys yn ein gweithgaredd. 

 

Enwau ein corau

Ar ôl ymgynghori â’n haelodau, staff, gwirfoddolwyr a phobl ifanc eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’n gwaith, rydym wedi dod i’r casgliad nad yr enwau sy’n creu’r rhwystrau ond yn hytrach ba ganfyddiad sydd o’n gweithgareddau. Credwn yn gryf mai ein cyfrifoldeb ni yw chwalu’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â dod yn aelodau o’n corau. I ni, mae hyn yn golygu ymgysylltu mwy â chymunedau, sicrhau ein bod yn berthnasol i bobl ifanc heddiw a gwneud yn siŵr ein bod yn gynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Yn ogystal â hyn, mae’n bwysig i ni ein bod yn parhau i ddathlu hanes a chyflawniadau ein corau dros y 12 mlynedd diwethaf yn ogystal â threftadaeth gerddorol Cymru.

Dyma pam y byddwn yn parhau i gael ein hadnabod fel Only Boys Aloud, Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud.   

Fodd bynnag, byddwn yn dechrau arwain mwy gyda brand aloud.cymru i’n helpu i ddod â’n holl weithgarwch ynghyd o dan yr un ymbarél. Bydd hyn yn helpu’r bobl ifanc i deimlo’n rhan o’r teulu ehangach yn ogystal â bod yn aelod o gôr penodol ac, yn ogystal â hyn, yn rhoi safle cadarnach inni fel elusen Gymreig sydd â’n gwreiddiau yng Nghymru ac sy’n falch o’n hanes a’n treftadaeth ym myd y gân. 

 

Symud ymlaen 

Er mwyn bod yn fwy cynhwysol a hygyrch i bobl ifanc rydym felly yn bwriadu datblygu:  

  • Dull newydd o recriwtio, gan dargedu pobl ifanc drwy grwpiau eraill yn ogystal ag adrannau cerdd mewn ysgolion
  • Cyfrifon TikTok ac Instagram i dargedu pobl ifanc yn benodol a dangos ein bod yn fwy na grŵp o gantorion caboledig mewn crys a thei 
  • Digwyddiadau i randdeiliaid mewn ardaloedd lle mae gennym gorau er mwyn bwrw mwy o wreiddiau mewn cymunedau lleol, gan ddarparu cyfleoedd i bobl brofi ein gwaith mewn lleoliadau ‘go iawn’ oddi ar y llwyfan traddodiadol 

Gwyddom fod gennym gryn ffordd o’n blaen, ond gobeithio ein bod wedi dechrau ar ein taith at fod yn sefydliad mwy cynhwysol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithgareddau mor hygyrch â phosibl i’r rhai sydd eisiau ymuno. Rydym yn sefydliad sy’n dysgu a byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth gan eraill i’n cynorthwyo wrth i ni symud ymlaen yn ein huchelgeisiau. 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gynorthwyo’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i fod â llais yn ein gwaith ehangach. Ein haelodau yw ein hased mwyaf a byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw a gwrando arnynt drwy ein Fforwm Ieuenctid, grwpiau ffocws a holiaduron. Bydd hyn, yn ogystal â datblygu partneriaethau mewn cymunedau, yn ein helpu i lunio ein gwaith yn y dyfodol ac yn ein helpu i gael ein harwain gan y rhai rydym yn dymuno eu gwasanaethu.