
Llysgennad
Syr Bryn Terfel
Bywgraffiad
Mae’r baswr-bariton rhyngwladol o Gymru, Syr Bryn Terfel wedi perfformio ym mhrif dai opera a neuaddau cyngerdd y byd ac yn 2017 fe’i urddwyd yn farchog am ei wasanaethau i gerddoriaeth.
Ac yntau wedi ennill gwobrau Grammy, Classical Brit a Gramophone, y llynedd ymddangosodd am y tro cyntaf yn rôl Don Pizarro yn Fidelio yn y Schloßberg yn Graz, Awstria. Mae ei uchafbwyntiau eraill ym myd yr opera yn cynnwys y brif rôl yn Don Pasquale ar gyfer y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden a rôl Scarpia yn Tosca ar gyfer y Tŷ Opera Brenhinol a Vienna State Opera, y brif rôl yn Boris Godunov ar gyfer Deutsche Oper Berlin a’r Tŷ Opera Cenedlaethol a’i ymddangosiad cyntaf yn nhŷ opera ABAO Bilbao Opera yn rôl Holländer yn Der fliegende Holländer.
Ac yntau’n ddatgeiniad enwog, y mae’r un mor adnabyddus am ei hyblygrwydd fel perfformiwr cyngerdd, ac mae ei uchafbwyntiau’n amrywio o seremoni agoriadol Cyngerdd Mileniwm Cymru a BBC Last Night of the Proms i Gyngerdd Gala gydag Andrea Bocelli yn Central Park, Efrog Newydd. Am naw mlynedd, bu’n cynnal ei ŵyl ei hun yn y Faenol ger Bangor, ac ym mis Rhagfyr curadodd gyngerdd Nadolig arbennig ar gyfer cyfres ‘Met Stars Live in Concert’, Metropolitan Opera, a ffrydiwyd i bedwar ban byd o Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.
