Arweinydd Côr

Rhiannon Pritchard

Bywgraffiad

Cafodd Rhiannon ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin, ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers graddio o’r CBCDC fel pianydd a repetiteur yn 2009.

Mae’n gweithio’n helaeth fel cyfeilydd, repetiteur ac animateur gyda llawer o gwmnïau gwahanol sydd, yn ogystal ag Aloud, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Live Music Now, Mahogany Opera, The Forget Me Not Chorus a Music in Hospitals & Care. Mae hi hefyd yn diwtor piano preifat ac ar hyn o bryd mae’n hyfforddwr llais a chyfeilydd i adran llais CBCDC.

Mae Rhiannon wedi bod ynglwm ag Aloud ers 2010 gan weithio gydag Only Kids Aloud ers y diwrnod cyntaf, ac mae’n falch o fod wedi helpu sefydlu Merched Aloud Girls yn 2021.

Dywedodd Rhiannon: “Dwi wedi mwynhau pob eiliad o wylio’r elusen yn mynd o nerth i nerth a dwi’n gyffrous i weld beth yw’r dyfodol i’r sefydliad anhygoel hwn!”

Cysylltwch â Ni

Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.