
Arweinydd Côr
Nick Wayland-Evans
Bywgraffiad
Roeddwn i’n un o aelodau gwreiddiol Only Men Aloud! a bum yn Arweinydd Côr gydag OBA ers y dechrau yn 2010.
Rwy’n berfformiwr a hwylusydd profiadol a bum yn addysgu’r celfyddydau perfformio am 12 mlynedd.
Rwy’n falch iawn o’r hyn mae’r bechgyn wedi’i gyflawni dros yr 11 mlynedd diwethaf ac wedi gweld y newidiadau lu ymysg y bechgyn o ran sgiliau ymarferol a chymdeithasol, gan drosglwyddo eu sgiliau a’u profiad i genhedlaeth nesaf OBA wrth ddod yn fentoriaid ac yn Arweinyddion Corau y dyfodol.
Cysylltwch â Ni
Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.
