Arweinydd Côr

Nick Bristow

Bywgraffiad

Ganwyd Nick yn Cheltenham, Swydd Gaerloyw, ac fe’i magwyd yn Tewkesbury. Symudodd i Gaerdydd i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio ym 1997 cyn dilyn cwrs TAR mewn Cerddoriaeth Uwchradd y flwyddyn ganlynol. Ef yw Pennaeth y Celfyddydau Perfformio yn Ysgol Gyfun Treorci.

Mae Nick yn falch o fod yn un o aelodau gwreiddiol Only Men Aloud a gwnaeth fwynhau 12 mlynedd wych yn canu, gweithio a theithio gyda’r côr. Er nad yw bellach yn aelod, mae Nick yn hoff o gynnal cyswllt agos â’r mudiad, yn trefnu caneuon, cymryd ymarferion ynghyd â chyfeilio i’r côr yn achlysurol.

Mae Nick wrth ei fodd o fod yn Arweinydd Côr i Only Boys Aloud am ei fod yn cyfuno’r ddau beth y mae’n teimlo’n angerddol yn eu cylch: Cerddoriaeth ac Addysg. Pan gaiff amser hamdden, mae Nick yn mwynhau chwarae allweddellau a bas mewn bandiau, gwylio chwaraeon a threulio amser gyda’i deulu yn eu hoff dafarn leol!

Cysylltwch â Ni

Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.