
Llysgennad
Matthew Rhys
Bywgraffiad
Cafodd Matthew ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd. Yn ei yrfa amrywiol, enillodd Matthew wobr Primetime Emmy a chafodd ei enwebu am ddwy wobr Golden Globe. Yn 2020, serennodd yn y brif rôl ar gyfres HBO, Perry Mason, gan dderbyn trydydd enwebiad am wobr Golden Globe.
Mae’n fwy na pharod i roi o’i amser i Aloud, ac meddai:
“Rwy wrth fy modd o gael bod yn Llysgennad cyntaf Aloud. Mae Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud yn gwneud gwaith sy’n ysbrydoli, nid yn unig am eu bod yn canu mor dda, ond hefyd am fod y profiadau mae’r bechgyn a’r merched yn eu cael yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd, datblygu hunanhyder a pherfformio i’r safonau uchaf. Mae digonedd o dystiolaeth y gall Aloud drawsnewid bywydau. Daliwch ati ar y gwaith da!”
Yn ddiweddar, perfformiodd Matthew yng Nghyngerdd Nadolig Rhithwir Aloud.
