Ymddiriedolwr

Lisa Tregale (hi)

Bywgraffiad

Dechreuodd Lisa ei gyrfa yn Ysgol Haf Ryngwladol Dartington (DISS). Gweithiodd gyda’r Cyfarwyddwr Artistig Gavin Henderson i ddatblygu un o’r ysgolion haf a’r gwyliau mwyaf llwyddiannus yn y wlad, gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol rhyngwladol o bob genre cerddorol. 

Yn 2004, daeth Lisa yn Gyfarwyddwr Beaford Arts, sef sefydliad artistig gwledig sy’n gweithio gyda chymunedau trwy ogledd Dyfnaint a thu hwnt. Yn 2006, penodwyd Lisa yn Brif Swyddog Gweithredol ar gyfer creu Ysgol Gerdd y De Orllewin lle bu’n allweddol o ran siapio agendâu/strategaethau cerdd ac addysg cerdd ar lefel genedlaethol, a hefyd hi oedd Sylfaenydd/Cadeirydd Foundations for Excellence, sef sefydliad sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant wrth hyfforddi cerddorion a dawnswyr ifanc. 

Rhwng 2013 – 2019, Lisa oedd Pennaeth Cyfranogi ac uwch-reolwr Cerddorfa Symffoni Bournemouth, lle bu’n gweithio ar draws pob maes yn ymwneud â chyfranogi mewn cerddoriaeth – o’r blynyddoedd cynnar hyd at bobl hŷn mewn gofal preswyl, a phopeth yn y canol. 

Ym mis Ionawr 2020, daeth Lisa yn Gyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol y BBC a Chôr Cymru ac yn Swyddog Gweithredol BBC Cymru Wales – gan arwain strategaeth ar gyfer Cerddorfa Symffoni broffesiynol y Genedl a llywodraethu cyfraniad Cymru tuag at ddarlledu a gwasanaeth cyhoeddus y BBC, sef Hysbysu, Addysgu a Difyrru.    

Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr Open Up Music / Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol, Cerebral Palsy Cymru a Sefydliad Ysgol Haf Ryngwladol Dartington, ac yn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain. 

Cysylltwch â Ni

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.