Arweinydd Côr

James Morgan

Haia, James ydw i, un o Arweinyddion Corau Only Boys Aloud.

Cychwynnodd fy nhaith gydag Aloud yn fy arddegau pan ddaeth grŵp o gantorion Only Men Aloud i fy ysgol, Ysgol Gyfun Rhydywaun, ar ddiwrnod recriwtio i gyflwyno’r bechgyn i Only Boys Aloud. Ymunais ar unwaith ac mae wedi rhoi profiadau a chyfleoedd bythgofiadwy i mi.

Profiadau’n amrywio o ymarfer yn fy nghlwb rygbi lleol yn Aberdâr, gyda ffrindiau o’r ardal, i seremoni agoriadol Cwpan Ryder, Britain’s Got Talent a pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Stadiwm Principality ymhlith llawer mwy. Roeddwn i’n ddigon ffodus I fod yn rhan o Academi OBA hefyd, lle y gwnes i ddysgu technegau actio a chanu gan Tim Rhys-Evans a Jonathan Butterell, ac rwy’n dal i’w defnyddio hyd heddiw. Roedd yn adeg pan wnes i dyfu fel person ac fel perfformiwr.

Fe wnaeth Only Boys Aloud fy helpu i benderfynu ar lwybr gyrfa, a phan oeddwn i’n 18, gadewais Gymru i astudio ar dair blynedd o gwrs Actio yn y Guildford School of Acting. Ers graddio, bum yn ddigon ffodus i weithio gyda llawer o gwmnïau ledled Prydain ar wahanol brosiectau o’r theatr i’r sgrin.

Ar ôl ychydig flynyddoedd yn Llundain, dewisais symud i Gaerdydd. Fe wnes i gyfarfod ag Aloud a dyma nhw’n gofyn a fyddai gen i ddiddordeb mewn bod yn Arweinydd Côr i Only Boys Aloud, ac fe gytunais ar unwaith! Mae wedi bod yn fraint cael rhoi rhywbeth yn ôl i sefydliad sydd wedi rhoi cymaint i mi. Rwy bellach yn defnyddio cymysgedd o’r sgiliau a’r ymarferion cynhesu y gwnes i eu dysgu fel aelod o OBA ochr yn ochr â rhai ddysgais i yn yr ysgol ddrama ac yn y diwydiant wrth arwain côr OBA.

Wrth gwrs, mae OBA wedi helpu fy ngyrfa’n fawr iawn ond y peth mwyaf rwy wedi’i gael o fy amser gydag Aloud yw’r cyfeillgarwch rwy wedi’i gael gyda’r bechgyn yn y côr pan oeddwn i’n aelod ac ymhlith Arweinyddion y Corau rwy bellach yn cydweithio â nhw. Mae Aloud wir yn teimlo fel teulu, ac un rwy’n falch o fod yn rhan ohono.

Cysylltwch â Ni

Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.