
Cadeirydd
Ian Rees
Bywgraffiad
Penodwyd Dr Ian Rees yn Gadeirydd Elusen Aloud yn 2021.
Meddai, “Roedd fy ngyrfa ym maes addysg a hyfforddiant – ysgolion a cholegau. Roeddwn i’n Brifathro ar ddau goleg blaenllaw – Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.
Rwy’n byw yng Nghricieth ers 25 mlynedd ac yn mwynhau cerddoriaeth a chwaraeon.
Mae bod yn Ymddiriedolwr gydag Aloud yn fraint ac yn dwyn ynghyd lawer o bethau sy’n bwysig i mi – cerddoriaeth gorawl, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a bod yn gyfarwyddwr anweithredol.”
