
Ymddiriedolwr
Fflur Jones
Bywgraffiad
Magwyd Fflur ger y Bala. Ar ôl cymhwyso yn gyfreithiwr, ymunodd â chwmni cyfreithwyr masnachol Darwin Gray yng Nghaerdydd, lle mae bellach yn bartner ac yn bennaeth y tîm cyflogaeth ac adnoddau dynol.
Mae gwaith cyfraith cyflogaeth Fflur yn cynnwys arbenigedd a diddordeb penodol ym maes cyfraith gwahaniaethu.
Fflur yw Cadeirydd Pwyllgor Disgyblaeth, Safonau ac Aelodaeth Plaid Cymru, a Chadeirydd Menter a Busnes. Yn ogystal â gwasanaethu ar fwrdd Aloud, mae hefyd yn aelod o fwrdd Sinfonia Cymru.
