Llysgennad Ieuenctid

Callum Howells

Bywgraffiad

Ymunodd Callum ag OBA jyst mewn pryd i berfformio ar Britain’s Got Talent! Aeth Callum yn ei flaen ar ei daith gydag Aloud gan ymuno ag Academi Only Boys Aloud, ac roeddem wrth ein boddau pan gytunodd Callum i fod yn Llysgennad Ieuenctid cyntaf Aloud. Dechreuodd ar ei yrfa broffesiynol yng nghynhyrchiad Cameron Mackintosh o ‘Oliver’. Wedyn aeth yn ei flaen i ffilmio cyfres ddogfen ar gyfer CBBC o’r enw ‘Show Me What You’re Made Of’ a enwebwyd am wobr BAFTA.  Yn 16 oed, chwaraeodd rôl Arpad Laszlo yn She Loves Me, oddi ar y West End. Ar ôl cwblhau ei radd BA mewn Actio, yn fwyaf diweddar ymddangosodd fel Colin Morris-Jones yn nrama newydd Russel T Davies, It’s A Sin ar Channel 4.  

Cysylltwch â Ni

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.