Fel sector y celfyddydau yn ehangach, mae Elusen Aloud yn parhau i adfer o effeithiau pandemig Covid-19. Rydym wedi defnyddio hyn fel cyfle i fyfyrio ar raglenni ein corau a dechrau’r broses o ailadeiladu’r niferoedd sy’n cymryd rhan.
O fewn cyd-destun annhegwch cymdeithasol a hiliol sydd wedi’i ddwysáu gan bandemig Covid-19, mae’r byd wedi newid, heb-os, ac mae’n rhaid i sefydliadau celfyddydol fel nyni sicrhau ein bod yn parhau i wrando ac addasu er mwyn diwallu anghenion ein pobl ifanc.
Dros y 12 mis diwethaf, cychwynnodd Elusen Aloud ar broses o ymgynghori â’r gymuned i ganfod a yw ein rhaglenni’n parhau i fod yn addas i’r diben ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a sut y gallwn weithio i adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yn ein cymunedau yn well.
Comisiynwyd dau ddarn o waith: un yn ymwneud ag Effaith ein Gwaith a’r llall ynghylch Ymgysylltu a Chynhwysiant. Mae’r elusen hefyd wedi ymgynghori’n eang gyda chyfranogwyr ac arweinwyr presennol ein corau.
Bu’r adroddiadau hyn yn allweddol wrth ddatblygu ein ffordd o feddwl. Er i’r Adroddiad Effaith amlygu’r ffaith bod pobl ifanc, unwaith y byddant yn ymwneud â’n gwaith, yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn datblygu llawer o sgiliau bywyd pwysig, ac yn profi iechyd meddwl gwell, roedd yr Adroddiad Ymgysylltu a Chynhwysiant yn nodi’n glir nad ydym yn ymgysylltu â chanran helaeth o’r boblogaeth sydd ar gael yng Nghymru ac nad ydym yn hysbys yn gyffredinol yn ein cymunedau.
Codwyd cwestiynau yn yr ymchwil Ymgysylltu a Chynhwysiant ynghylch a oedd yn briodol yn 2022 i ni gael corau sy’n benodol o ran rhywedd.
Holwyd hefyd a oedd y gair ‘Only’ yn enwau ein corau yn rhwystr i ymgysylltu.
Gwnaethom waith pellach yn y meysydd hyn a daeth yn amlwg i ni yn ystod y broses hon nad enwau ein corau ynddynt ac ohonynt eu hunain yw’r rhwystr i gymryd rhan yn ein corau a bod angen gwneud gwaith ym meysydd recriwtio, adeiladu cymunedol, perthnasedd, a chynrychiolaeth. Mae ein hymrwymiad i gynhwysiant i’w weld fan yma
Er mwyn cynnig cysondeb ar draws ein corau byddwn yn dod ag enwau ein corau ynghyd o dan faner aloud.cymru gydag:
Only Boys Aloud – corau i fechgyn a phobl ifanc anneuaidd 11-19 oed
Only Girls Aloud – corau i ferched a phobl ifanc anneuaidd 11-19 oed
Only Kids Aloud – corau i bobl ifanc 9-12 oed
Bydd lleisiau a phrofiadau pobl ifanc bob amser yn ganolog i waith Aloud. Mae cydweithio â’n pobl ifanc i lunio dyfodol ein corau wedi bod yn broses hynod werth chweil hyd yma ac rydym yn falch o’u haelioni a’u caredigrwydd drwy gydol y broses hon.