WINTER NEWSLETTER 2020

Newyddion

Eleanor ydw i – Intern Creadigol Celfyddydau a Busnes Cymru ac aelod newydd a chyffrous teulu Aloud! Byddaf yn gweithio gyda Hannah yn y tîm Codi Arian am y 10 mis nesaf ar gynlluniau newydd cyffrous – gallwch ddarllen fy mlog newydd yma.

Hoffwn hefyd gyflwyno Dimana, ein Swyddog Cyfathrebu Digidol newydd. Dimana sydd yn gyfrifol am ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan a’r holl bethau digidol eraill. Helo Dimana a chroeso i’r tîm!

Mae’n wir wedi bod yn flwyddyn annisgwyl i bawb, ond mae ein haelodau, Capteiniaid Tîm, Arweinyddion Cymuned a staff yr elusen wedi llwyddo i beidio â digalonni ac rydym yn falch o’r hyn rydym wedi llwyddo i’w cyflawni yn yr amser heriol hwn. Rydym wedi llwyddo i gynnal ymarferion wythnosol OBA, gweithio gyda phartneriaid newydd a chyffrous a chynhyrchu perfformiadau “gweithio o adref” arbennig!

Felly, gyda thymor y Nadolig o’n blaenau, rydym yn falch o fedru rhannu gyda chi rhai o’n huchafbwyntiau a straeon diweddaraf….Croeso i gylchlythyr y gaeaf.

Dyma’n Newyddion Diweddaraf

#1 Rydym ni’n cynnal Cyngerdd Nadolig (hwre!)

Rydym ni’n gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod yn bwriadu cynnal cyngerdd Nadolig rhithiwr arbennig iawn (gan nad oes hawl gennym gynnal un go iawn!). Bydd y cyngerdd yn ddathliad o waith anhygoel Only Boys Aloud gyda gwesteion arbennig ac unigolion rydym wedi gweithio gyda nhw trwy gydol 2020.

Dydd Sul 20 Rhagfyr am 5pm GMT

Felly gwisgwch eich sanau gwlanog, cydiwch mewn gwydraid o rywbeth cynnes a gadewch i ni eich cludo i ffwrdd i fyd Aloud ar gyfer cyngerdd dyrchafol o’n hoff ganeuon a hwyl yr ŵyl! Mae’r cyngerdd yn rhad ac am ddim, ond bydd cyfle i chi gyfrannu yn ystod y noson er mwyn cefnogi ein gwaith.Cofrestrwch am eich tocyn yma >>> https://only-boys-aloud-christmas-concert.eventbrite.com

#2 Somewhere Over The Rainbow

Dynododd Sefydliad Iechyd y Byd 2020 fel Blwyddyn Ryngwladol y Nyrs a’r Fydwraig. Er mwyn cefnogi Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wrth ddathlu nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws Cymru, cynhyrchodd Only Boys Aloud ynghyd â’r gwestai arbennig Sophie Evans, fideo a pherfformiad o “Somewhere Over the Rainbow” i ddweud diolch.

Cawsom ymateb anhygoel I’r fideo, rhannodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru pa mor falch yw CNB Cymru o fod wedi cydweithredu gydag Only Boys Aloud ar y gân o ddiolch arbennig hon.

Dywed Denise Llewellyn FRCN MBE, Cadeirydd CNB Cymru bod ymroddiad staff nyrsio yn ystod COVID19 wedi arwain at werthfawrogiad diffuant gan bobl Cymru at eu gwaith fel na welwyd erioed o’r blaen.

Roedd yn hyfryd clywed pa mor ddiolchgar oedd CNB Cymru i dderbyn y gân o ddiolch arbennig hon. Mae’r bechgyn wedi bod yn ymarfer y gân hon yn rhithiol ers mis Medi ac roeddem yn falch iawn bod Sophie Evans, sydd wedi chwarae rhan Dorothy yn y West End, wedi cytuno i ymuno â ni i ganu’r unawd.

Mae wir yn teimlo eu bod wedi llwyddo i gyfleu ein gwerthfawrogiad o’r holl nyrsys a gweithwyr gofal iechyd.

#3 Enillwyr yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru

Roeddem wrth ein boddau i gael ein cydnabod yng Ngwobrau Celf a Busnes Cymru 2020 am ein gwaith gyda chefnogwyr a phartneriaid ledled y byd.

(Yn amlwg, manteisiodd y tîm ar y cyfle i wisgo i fyny am noson gyfareddol i mewn!)

Roeddem mor falch o ennill y wobr ar gyfer Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifanc am ein partneriaeth gyda Sefydliad Hodge, gan eu bod yn ein helpu i annog cyfleoedd cyfartal i bobl ifanc.

Enillodd ein ffrind a’n cefnogwr gwerthfawr Dan Weston Wobr Robert Maskrey am Ddyngarwch yn y Celfyddydau am ei gefnogaeth anhygoel i’r elusen eleni, a mynychwr cyntaf y gwobrau a wnaeth Zoomio yn fyw o America! Gallwch wylio fideo Dan yma.

Fel bob amser, roedd yn wych gweld ein llysgenhadon Amy Wadge a Rebecca Evans, yn ogystal â chlywed ein ffrindiau Only Men Aloud yn perfformio.

Digwyddiad hynod lwyddiannus a difyr! Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr – mae’n ysbrydoledig gweld cymaint o waith da yn digwydd yma yng Nghymru. Gallwch ddarllen fwy yma.

Gwobrau Celf a Busnes Cymru 2020 – The Aloud Charity & The Hodge Foundation

#4 Cardiau Nadolig

Mae’r Nadolig llai na mis i ffwrdd ac mae siop Nadolig Aloud bellach ar agor yn swyddogol ac mae ein Cardiau Nadolig NEWYDD ar werth!

Mae gennym ddau ddyluniad hardd i ddewis ohonynt, gyda phob pecyn yn cynnwys 10 cerdyn ac amlen. Rydym wedi dewis pecynnu heb blastig ac mae’r testun y tu mewn yn Saesneg a Chymraeg.

Byddwn yn danfon i unrhyw gyfeiriad, felly anfonwch ychydig o hwyl yr ŵyl heddiw ac ymwelwch â’n siop ar-lein.

Cefnogi Elusen Aloud

Rydyn ni mor ddiolchgar i’n ffrindiau, ein cyllidwyr a’n cefnogwyr o bob cwr o’r byd sydd wedi ein helpu trwy’r amser anodd hwn. Mae gwybod eich bod chi wrth ein hochr ni yn rhoi’r hyder i ni ddod allan o’r pandemig hwn gyda mwy o angerdd ac uchelgais nag erioed o’r blaen.

Cysylltwch â [email protected] i gael gwybodaeth am ddod yn aelod o Calon neu am sgwrs achlysurol am sut y gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth. Gallwch wneud rhodd ar ein gwefan neu lawrlwytho pecyn gwybodaeth yn Saesneg neu yn Gymraeg yma.

Gwneud Rhodd

Dyma rai ffyrdd eraill y gallwch chi helpu:

  • Sefydlu rhodd reolaidd, gan ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hyderus a pharhau i weithio gyda phobl ifanc ledled Cymru
  • Siopa gan ddefnyddio Amazon Smile, (a chynhyrchu rhoddion am ddim!)
  • Rhannu ein straeon a’n fideos
  • Cysylltu â ni i ddweud helo!


A dyna ni!

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i’ch gweld chi i gyd eto, ond am nawr, arhoswch yn ddiogel a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Gyda chariad, Elusen Aloud
xx

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.