Mae’r mis hwn yn nodi pen-blwydd cyntaf gwaith Elusen Aloud yng Ngorllewin Cymru! Yn y post blog hwn rydyn ni’n dathlu cyflawniadau ein 12 mis cyntaf yng Ngorllewin Cymru:
Recriwtio
Yn Hydref 2021, darparodd ein Rheolwr Prosiectau i Orllewin Cymru Elin Llwyd, ochr yn ochr ag arweinwyr proffesiynol corau Only Boys Aloud, gyfres o weithdai recriwtio mewn ysgolion a gyda grwpiau cymunedol yng Ngorllewin Cymru lle roedden ni’n gweithio gyda dros 350 o bobl ifanc!
Roedd y rhain yn cynnwys grwpiau cymunedol ledled Sir Benfro a Cheredigion, gan gynnwys Vision Arts, Gofalwyr Ifanc Sir Benfro a Chastell Aberteifi.
Corau
Er gwaethaf heriau parhaol pandemig Covid-19 lansiwyd tri chôr Only Boys Aloud newydd:
- Aberteifi – Castell Aberteifi
- Aberystwyth – Canolfan Arad Goch
- Hwlffordd – Vision Arts
Recriwtiwyd 9 Arweinydd Côr lleol, newydd i gynnal ymarferion wythnosol a 3 Arweinydd lleol (gwirfoddolwyr) sy’n cefnogi’r ymarferion. Maen nhw hefyd wedi cryfhau ein rhwydwaith mewn amrywiaeth o ardaloedd ac wedi annog cysylltiad gyda’r prosiect.
Ymarferion Rhanbarthol
Yn ogystal ag ymarferion wythnosol, cymerodd y cyfranogwyr i gyd ran mewn 3 ymarfer llawn lle ddaeth y 3 chôr at ei gilydd i ymarfer fel un côr rhanbarthol mawr. Roedd yr ymarferion rhanbarthol yn arbennig o braf i’r bechgyn iau, gan nad oedden nhw wedi profi sŵn y pedair rhan i leisiau (gan gynnwys bariton a bas) i gyd gyda’i gilydd o’r blaen.
“Our first OBA West full rehearsal was brilliant because we sounded AMAZING today, the baritones made us all sound so good! Everyone was into singing but also loads love rugby like me. I can’t wait for us all to sing together again” Cyfrannog Only Boys Aloud
Digwyddiadau
Rhan fawr o Only Boys Aloud yw’r cyfleoedd i berfformio sydd yn allweddol i ddatblygu dyheadau cyfranogwyr ac ehangu eu gorwelion. Cafodd ein haelodau Only Boys Aloud yn y Gorllewin y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o ddigwyddiadau cyffroes, gan gynnwys:
- Recordiad rhithiol o Stay Now ar gyfer Cyngerdd Nadolig 2021 Aloud
- Recordiad ar-lein o A Song For Wales, wedi’i ysgrifennu yn arbennig i Only Boys Aloud gan enillydd gwobr Grammy Amy Wadge a sylfaenydd Aloud Tim Rhys Evans
- Perfformiad yn Eisteddfod yr Urdd (Sir Dinbych) ym mis Mai
- Perfformiad yn Serendome ym mis Mehefin ym Mharc Gwyliau Bluestone
- Perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol (Tregaron) ym mis Gorffennaf
- 2 x Cyngerdd Pen-blwydd ym mis Gorffennaf (Caerdydd a Rhyl) – gan gynnwys 3 x unawdwr o gorau Gorllewin Cymru
- Recordio 3 chân ar yr albwm 2022, GEN Z (gan gynnwys 3 x unawdwr (gwahanol) o Orllewin Cymru
“I think OBA has helped my sight reading and my voice. I’ve learned many new practicing techniques! It’s a great way to improve your singing.” Cyfrannog Only Boys Aloud
Effaith
Gallwch ddarllen am effaith ein Rhaglen Only Boys Aloud yng Ngorllewin Cymru yma.
Roedden ni hefyd wrth ein boddau i groesawu tri aelod Only Boys Aloud o’r Gorllewin i ein Hacademi Only Boys Aloud, cwrs preswyl wythnos o hyd i 30 o gyfranogwyr OBA.
Edrych ymlaen
Yn barod rydyn ni wedi bod yn brysur yn darparu cyfres o weithdai recriwtio mewn ysgolion ledled Gorllewin Cymru yr hydref hwn i groesawu cyfranogwyr i deulu Aloud!
Mae ein haelodau Only Boys Aloud hefyd wedi perfformio fel rhan o ddigwyddiad arbennig yng Nghastell Aberteifi ym mis Hydref ac â sawl cyfle arall i berfformio i ddod.
Yn ystod 2023 rydyn ni’n bwriadu dod â’n model Merched Girls Aloud llwyddiannus i fenywod ifanc yng Ngorllewin Cymru.
Diolch!
Hoffen ni gymryd y cyfle i ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru: Creu; Sefydliad Bluestone ac Ymddiriedolaeth Peggy & Molly Thomas am eu cymorth hael sydd wedi ein galluogi ni i lansio ein rhaglen yng Ngorllewin Cymru.
Cysylltwch â [email protected] i gofrestru eich diddordeb!