TAITH I YPRES 2017
Ym mis Tachwedd 2017 aeth 114 o aelodau OBA i Ypres yng Ngwlad Belg i berfformio ac i dalu teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywydau ym mrwydr Ypres 100 mlynedd yn ôl. Perfformiodd y bechgyn mewn cyngerdd dan ei sang yn Eglwys San Martin yn y sgwar yng nghanol Ypres, ac hefyd talwyd teyrnged ar gân ar lan bedd y bardd enwog, Hedd Wyn.
Roedd rhai darnau yn y rhaglen yn adlewyrchu y drasedi o ryfel, er enghraifft:
Le Chant des Marais – cân a gafodd ei chyfansoddi mewn carchar rhyfel.
Aberystwyth – Trefniant newydd o’r emyn adnabyddus hon gan Tim Rhys-Evans – canwyd yr emyn hon gan filwyr Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf yn union cyn iddynt fynd i frwydro ar faes y gad
Roedd gweddill y rhaglen ag ymdeimlad ryngwladol a oedd yn adlewyrchu ein dynoliaeth gyffredin gyda darnau o wledydd ar draws y byd mewn nifer o wahanol ieithoedd.
Roedd hefyd darnau adnabyddus Only Boys Aloud yn rhan o’r perfformiadau gan gynnwys gosodiad hyfryd Caradog Williams o eiriau enwog Saunders Lewis ‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal’, Ymdeithgan Gwyr Harlech ac anthem OBA, Calon Lân.
Mae OBA yn gôr o ddynion ifanc felly roedd digon o ganeuon poblogaidd a sioeau cerdd yn rhan o’r rhaglen yn ogystal.
TAITH I LORIENT, FFRAINC 2018
Ym mis Awst 2018, teithiodd aelodau o Academi Only Boys Aloud i berfformio yang Ngwyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw, Ffrainc. Roedd yn fraint i fod yn rhan o’r wyl i ddathlu diwylliannau Celtaidd ac i gynrychioli Cymru. Perfformiodd y bechgyn yn y Theatr ar gyfer y Cyngerdd Agoriadol, yn Nerbyniad y Maer, ym Mhafiliwn Cymru ac yn y Grand Nuit du Pays de Galles. Roedd yr Wyl yn wych ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am y gwahoddiad.