Dydd Iau, 2ail Tachwedd
Cychwynnais fy nhaith yn oriau man bore Dydd Iau mewn maes parcio yn Wrecsam. Gyda thua 50 o fechgyn blinedig y gogledd teithion ni lawr i Dover gyda thaith o chwe awr. Ar ôl cyrraedd Calais, dim ond taith awr oedd gennym ni i dref hanesyddol Ypres yng Ngorllewin Gwlad Belg. Wrth gyrraedd ffin Ffrainc-Gwlad Belg mi roedd yn amlwg ein bod wedi cyrraedd gwlad hardd ei dirwedd a hardd eu pensaernïaeth. Mi gyrhaeddon ni yn Ypres hwyr y prynhawn. Mi roedd y tir o amgylch Ypres yn faes y gad i Frwydr Passchendaele neu Trydedd Brwydr Ypres, lle fe laddwyd nifer fawr iawn o filwyr y Gymanwlad. Bob nos am with o’r gloch, mae yna seremoni “Last Post”. Ers 1928 mae’r seremoni wedi cael ei gynnal yn ddyddiol i gofio am filwyr ar goll. Mae’r adeilad yn cynnwys 54,409 o enwau gwledydd y Gymanwlad.
Y noson honno cefais fy newis i osod torch ar y gofeb ac rwyf yn teimlo’n anrhydeddus iawn y cefais y profiad. Gyda chywirdeb milwrol, dechreuodd y seremoni. Clywsom gerddoriaeth y “Last Post” a cherddoriaeth Albanaidd. Yna roedd fy nghôr, Only Boys Aloud yn canu dwy gân. Yn ystod y ddwy gân mi roedd grwpiau o bob cornel o’r byd megis Awstralia, Canada, Lloegr, Yr Alban a Chymru yn gosod torch. Mi gefais sawl llun gyda grwpiau eraill o amgylch y byd, ac mi roeddwn yn falch iawn i alw fy hun yn Gymro wrthynt. Wrth gerdded tuag at y gofeb roedd yn amlwg y roedd y profiad yma yn fythgofiadwy, a chefais fy syfrdanu ar y distawrwydd a oedd yna.
Dydd Gwener 3ydd Tachwedd
Roedd yr ail ddiwrnod yn Ypres, neu Ieper yn yr iaith Fflemeg, yn brysur iawn i ni. Cychwynnon ein diwrnod gyda chyfeiryddion lleol, lle roeddwn yn cael syniad gwell am bwysigrwydd strategol y dref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ein harosodiad cyntaf oedd Fynwent Artillery Wood. Dyma le cafwyd dau fardd enwog eu lladd a’u claddu ar ddiwrnod cyntaf y frwydr – Francis Ledwidge o’r Iwerddon, ac Ellis Humphrey Evans neu Hedd Wyn. Ymgasglon o amgylch beddfaen Hedd Wyn, a chanon y gân “h” neu “hiraeth” gan Pwyll ap Sion. Wrth ganu’r gân, mi roedd yn bosib teimlo’r teimlad a oedd gan bob un milwr yn ystod y rhyfel, hiraeth. Un beth a oedd wedi fy synnu oedd y nifer o feddfeini dienw. Mae’n sicr yma y roedd y rhan fwyaf ohonom ni gyda dagrau yn ein llygaid.
Yna aethon i gofeb Cymraeg yn bentref Langemark lle cefais fwy o hanes am hanes y frwydr waedlyd hon. Ar ôl canu sawl can o amgylch y gofeb draig, aethom i fynwent Almaenig Langemark. Yma roedd yn amlwg roedd yna wahaniaeth rhwng mynwentau’r Gymanwlad a’r fynwent Almaeneg. Yn y mynwentau Almaeneg nid oedd yn bosib cael beddfaen, ac mi roedd rhaid defnyddio beddau torfol. Erbyn diwedd y dydd roeddwn wedi ymweld â sawl mynwent a chofeb.
Mi gyrrhaeddom ni yn ôl yn Ypres ar ol cinio i ymarfer ar gyfer ein cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol St Martins. Ond yn ffodus i ni gyd, roedd digon o amser i gael waffl a soiled Belgaidd! Yn dilyn y gorfwyta roeddwn yn perfformio yn y gadeirlan llawn. Mi roedd profiadau’r ddiwrnod yn sicr wedi rhoi syniad gwell a fwy o deimlad i bob gair a chanon.
Dydd Sadwrn 4ydd Tachwedd
Ar ôl y gyngerdd lwyddiannus y noson cynt, roedd bron bob un ohonom ni wedi blino. Ond, mi roedd diwrnod prysur eto o’m blaenau. Fe adawom Ypres yn y bore, ar gyfer ein taith i ardal brwydr y Somme yn Ffrainc. Ein harhosiad cyntaf oedd Cofeb Thiepval, lle aeth 72,246 o filwyr Prydeinig a De-Affricanaidd ar goll yn ystod yr ymladd. Mi roedd y nifer o enwau a oedd ar wal y gofeb yn afreal. Mi roedd yn amlwg i ni gyd roedd yr ymladd yn erchyll ar y ddwy ochr.
Un frwydr enwog arall lle bu nifer helaeth o filwyr Cymraeg yn ymladd oedd Brwydr Mametz Wood ac fe ganon ni “h” unwaith eto. Ar ôl gosod torch ychwanegol roedd ein taith fythgofiadwy ar ben ac amber i anelu nol i Calais ac adref.
Roedd ein pererindod i Wlad Belg yn anhygoel a chefais brofiad bythgofiadwy. Mae’n sicr ni fuasai’r milwyr ni wnaeth dod yn ôl ar y ddwy ochr yn credu buasai 114 o fechgyn Cymreig yn cofio amdanynt, can mlynedd ymlaen. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am y siawns a chefais, a hoffwn ddweud gair o ddiolch i’n cyfeiryddion lleol, y staff i gyd ac i Only Boys Aloud.