Roedd fy nerfau i’n racs wrth gerdded i mewn i’r ymarfer cyntaf. Ond ar ôl cael fy nghyflwyno i’r capteiniaid tîm a’r bechgyn o’m hardal, dechreuais deimlo fel un o’r teulu’n ddigon cyflym. Yn y rhan gyntaf, gwnaethom ni chwarae gemau a chynhesu ein lleisiau. Dysgu darnau newydd wnaethom ni yn yr ail ran, oedd yn brofiad cyffrous iawn, a wnaeth fy helpu i ddeall cerddoriaeth yn well.
Yn fuan wedyn, daeth fy ymarfer llawn cyntaf. Dyma oedd y rhan fwyaf cyffrous, gan ei bod hi mor wych cael cwrdd â chymaint o fechgyn oedd yn rhannu’r un diddordeb mewn cerddoriaeth â fi. Dyma oedd y tro cyntaf i mi gwrdd â Tim, sydd yn ddyn hynod o dalentog â dawn i ysbrydoli. Roedd canu “Try Again” gyda’r côr llawn yn brofiad arall bythgofiadwy, gan ei fod yn deimlad mor arbennig. Cynhaliwyd un ymarfer llawn gyda chôr o Galiffornia oedd yn ymweld â Chaerdydd. Roedd hyn yn wych, gan fy mod i wedi gwneud ffrindiau â phobl o ran arall o’r byd, ac rydw i’n dal mewn cysylltiad â nhw. Roedd hi hefyd yn braf cael rhannu cerddoriaeth â’n gilydd, gwylio eu perfformiadau nhw, a pherfformio o’u blaen.
James, OBA Pen-y-bont ar Ogwr