Annwyl Y Cyfnod Clo,
Rydyn ni wedi dy adnabod ers 19 wythnos bellach. Ac i fod yn onest, mae wedi bod yn anodd cyd-dynnu â ti y rhan fwyaf o’r amser. Rwyt ti wedi bod yn galed. Rwyt ti wedi ein herio. Rwyt ti wedi ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd. Rwyt ti wedi mynnu ein bod ni’n cymryd popeth rydyn ni’n ei wybod ac wedi gofyn i ni ei wneud yn wahanol.
Ond rwyt ti wedi ein dysgu i oroesi ac rydyn ni wedi dysgu. I aros yn bositif, yn llawn cymhelliant ac yn ddewr. Rydyn ni wedi stopio a meddwl, ac wedi cofio’r pethau bach yn ein bywydau sydd mor bwysig. Ac rydyn ni’n gryfach nag erioed o’r blaen.
Rydyn ni dal yma. Ac wrth i ni godi ein pennau’n ofalus ac edrych i’r dyfodol, rydyn ni’n gwybod beth sy’n rhaid i ni ei wneud. Rhaid i ni fod yn feiddgar, yn uchelgeisiol ac yn angerddol. A mwy nag erioed o’r blaen, byddwn yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod gyda balchder o’r hyn ydyn ni wedi’i gyflawni.
Ac yn bwysicaf oll, byddwn yn parhau i ganu. Alli di ddim ein rhwystro.
Llawer o gariad, Aloud x
Dyma ein Newyddion Diweddaraf
#1 Dyddiadau newydd ar gyfer ein Cyngherddau Dathlu Degawd
Mae’n debyg nad yw’n syndod clywed bod ein Cyngherddau Dathlu Degawd wedi’u gohirio. Ond rydyn ni’n gyffrous iawn i gyhoeddi ein dyddiadau newydd ar gyfer 2021! Mae tocynnau ar werth nawr.
Dydd Sul 7fed Tachwedd 2021 am 5pm – Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Dydd Sul 14eg Tachwedd 2021 am 5pm – Venue Cymru, Llandudno.
GWYBODAETH BWYSIG AR GYFER DEILIAID TOCYNNAU:
- Os oeddech eisoes wedi prynu tocynnau i’r digwyddiad yn 2020, BYDD eich tocyn yn ddilys ar gyfer y digwyddiad perthnasol yn 2021. Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yno.
- Os na allwch fynychu’r digwyddiad a hoffech gael ad-daliad, cysylltwch â swyddfa docynnau y lleoliad perthnasol./li>
- Os na allwch ddod i’r digwyddiad, ond hoffech rhoi gwerth eich tocyn i Aloud, gallwch hawlio eich ad-daliad a gwneud rhodd trwy ein gwefan.
Er ein bod yn siomedig na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â’r digwyddiad fel y cynlluniwyd, nid ydym yn gadael i’r sefyllfa leddfu ein hysbryd, ac rydym yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau dathlu dros gyfnod o 12 mis, gan ddechrau o’r amser gallwn ailddechrau digwyddiadau arferol.
Rydym yn hyderus mai gohirio yw’r penderfyniad cywir, rydym yn teimlo ei fod yn bwysig bod y cyngherddau nid yn unig yn arddangos ein gwaith i safon uchel, ond hefyd yn rhoi’r profiad gorau posibl i’n pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i ymarfer yn iawn, a’r gallu i gymdeithasu ac ymlacio gyda’i gilydd.
#2 Gweithgareddau y Cyfnod Clo
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cadw cysylltiad â’n cannoedd o gyfranogwyr ledled Cymru, ac wedi bod yn cynnal ymarferion rhithwir ers dechrau mis Ebrill, sydd wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Mae gennym dros 150 o fechgyn yn ymuno â’u grwpiau arferol o bob rhan o Gymru bob wythnos, dan arweiniad eu capteiniaid tîm rheolaidd gyda chefnogaeth staff Aloud a’n Harweinwyr Cymuned gwirfoddol.
Gallwch ddarllen am bopeth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ar ein gwefan: Ein Ymateb i COVID-19
Os gwnaethoch ei golli (neu efallai eich bod wrth eich bodd â’r fideo cymaint â ni), gallwch wylio ein fideo OBA Calon Lân eto yma.
Mae gennym hefyd fideo gwych o’n Harweinwyr Corawl yn arddangos ymarferion cynhesu lleisiol a chorfforol ar gyfer ein ymarferion rhithwir yma:
#3 OBA Academi 2020
Roedd ein cwrs Academi OBA i fod i gael ei gynnal ym mis Gorffennaf. Yn wreiddiol roeddem yn gobeithio gohirio’r wythnos breswyl tan yn ddiweddarach eleni, ond yn anffodus roedd gohirio’r cwrs preswyl yn ein gadael â mwy o gwestiynau nag atebion – pryd, ble, beth petai….?
Yn bwysicach fyth, rydyn ni am i’n haelodau Academi fod yn ddiogel wrth iddyn nhw gymryd rhan yn ein digwyddiadau ac yn sicr doedden ni ddim am gyfaddawdu ar brofiad yr Academi, sy’n ymwneud cymaint â chanu ag y mae chwarae ffrisbi yn y parc – yn sicr, ni fyddai fersiwn ‘pellhau cymdeithasol’ yr un peth.
Felly rydyn ni wedi gohirio’r cwrs Academi tan 2021 ac rydyn ni’n gwneud eithriadau arbennig ar gyfer y flwyddyn nesaf fel nad oes neb yn colli allan.
Y penwythnos diwethaf fyddai wedi bod ein perfformiad Academi cyntaf ar gyfer 2020, ac felly er mwyn tynnu ein sylw rhag teimlo’n rhy ddigalon, mae aelodau’r Academi wedi recordio eu hunain gartref yn canu ‘The Prayer’. Hyd y gwyddom, dyma’r fersiwn gyntaf a ganwyd erioed yn Saesneg a Chymraeg, ac fe’i trefnwyd gan ein aelod o staff, Craig Yates.
OBA Academi 2020 yn canu The Prayer, yn Saesneg a Chymraeg.
Mae ein perffromiad o ‘The Prayer’ wedi rhoi ysbrydoliaeth a llawenydd i bobl ledled y byd. Dyma ychydig o’r sylwadau rhyfeddol rydyn ni wedi’u derbyn:
These young men give me hope for the future. How moving. Thanks guys for an outstanding performance.
Good to know Only Boys Aloud is still alive and kicking.
We need more of this in the world today. Young Men and boys singing good inspirational music brings a spirit of kindness and love to us all. Thank you boys.
#4 Craig yn ymgymryd â swydd newydd yn Aloud
Mae Craig Yates wedi bod yn gysylltiedig ag Aloud ers 2010 ac mae hefyd yn aelod balch o Only Men Aloud. Rydyn ni wrth ein bodd ei fod wedi ymgymryd â’r rôl Cyfarwyddwr Cerdd Dros Dro ac ar gael i’n harwain trwy’r cyfnod ansicr hwn.
Mae Craig wedi bod yn gweithio’n galed i greu’r holl gynnwys digidol a fideos rydych chi wedi bod yn eu gwylio ar ein tudalennau Facebook a You Tube. Mae unrhyw un sydd wedi ymgeisio i greu fideos gwreiddiol yn gwybod nad yw’n broses hawdd, felly gadewch i ni roi cymeradwyaeth enfawr i Craig!
“I’m delighted to have taken on the role of Acting Music Director for Aloud and lead the teaching, learning and performing for the Charity.
It’s been a very strange time to take the reins, but it’s been brilliant to see the engagement and quality of the virtual rehearsals and recordings over this time.
I can’t wait to get us all back in a ‘real’ rehearsal room as soon as it is safe to do so, and get cracking with the celebrations for our tenth, or probably eleventh, year.”
#5 Curiad Calon Aloud
Rydyn ni mor ddiolchgar i’n ffrindiau, ein cyllidwyr a’n cefnogwyr o bob cwr o’r byd sydd wedi ein helpu trwy’r amser anodd hwn.
Os hoffech chi ddod yn gefnogwr rheolaidd i Elusen Aloud, ystyriwch ddod yn aelod o Calon. Mae rhoddion sylweddol a rheolaidd yn golygu y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda mwy o hyder. Mae gwybod eich bod chi wrth ein hochr ni yn ein gwneud yn benderfynol o ddod allan o’r pandemig hwn gyda mwy o angerdd ac uchelgais nag erioed o’r blaen.
Cysylltwch â [email protected] i gael sgwrs anffurfiol am sut y bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth, neu lawrlwythwch becyn gwybodaeth yn Saesneg neu yn Gymraeg yma.
Sut y gallwch chi helpu.
Mae elusennau ledled y byd yn wynebu effaith ddinistriol yn sgîl pandemig Coronavirus. Mae Elusen Aloud yn gweithio’n galed i aros yn gysylltiedig, yn greadigol ac yn gydnerth yn ystod yr amseroedd heriol hyn, ond mae angen eich cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed. Dyma dair ffordd posib y gallwch chi helpu:
- Gwnewch rodd heddiw, gan ein galluogi i barhau i weithio gyda phobl ifanc ledled Cymru.
- Rhannwch ein straeon a’n fideos.
- Cysylltwch a dywedwch helo.
Mae angen cerddoriaeth, canu a’r Celfyddydau nawr yn fwy nag erioed.
Cefnogwch ni Heddiw