Cyn gynted ag y clywais am y posibilrwydd o gael mynd i ganu ar Sport Relief gyda Only Boys Aloud, roeddwn i’n gyffro i gyd! Roeddwn i’n gwybod bod OBA wedi canu mewn cyngherddau amlwg yn y gorffennol, ond dim byd mor fawr â hyn! Roeddwn i’n arfer gwylio rhaglenni fel hyn wrth dyfu i fyny, ond rwan dwi’n perfformio ynddyn nhw! Mae’n eithaf swreal pan wyt ti’n meddwl am y peth. Wrth inni gyrraedd Llundain, roedd y lleoliad yn llawn enwogion a phobl adnabyddus. Roeddwn i’n awyddus i gael selffi gyda rhai ohonyn nhw, felly gofynnais i Hugh Dennis a Danny Dyer. Roedd fy ffrindiau nôl adref yn llawn cenfigen ar ôl gweld y lluniau ar Facebook! Roedd y daith yn ôl i Ogledd Cymru yn un anodd, ond roedd yr atgofion o’r hwyl yr oeddwn i wedi’i gael gwneud imi deimlo’n well.
Harri, OBA Y Rhyl