Seren Critics’ Choice Cymru, Matthew Rhys, fydd Llysgennad cyntaf erioed yr elusen gerddorol, Aloud.
Ac yntau newydd dderbyn gwobr ‘Critics’ Choice’ am y Gyfres Teledu Drama Orau y penwythnos yma gyda’i gyfeillion yn y cast yn The Americans, mae Matthew, sy’n frodor o Gaerdydd, yn frwd ei gefnogaeth.
Sefydlwyd Aloud fel elusen gan yr arweinydd, y trefnydd a’r cyfansoddwr corawl a’r cyflwynydd teledu, Tim Rhys-Evans, yn 2012 gyda’r cydamcanion o ailfywiogi traddodiad corau meibion Cymru a chreu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc rhai o ardaloedd difreintiedig Cymru.
Mae gan Matthew, sydd hefyd wedi’i enwi yr wythnos hon fel y person i gymryd lle Robert Downey Jr yn rôl deitl cyfres HBO, Perry Mason, amserlen orlawn oedd yn dyst iddo chwarae prif ran yn Death and Nightingales ar y BBC fis diwethaf a chyda rolau ffilm ar ddod yn A Beautiful Day in the Neighbourhood gyda Tom Hanks, a The Report gydag Adam Driver. Dangosir hyn yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance yn ddiweddarach mis yma.
Mae’n fwy na bodlon gwneud amser ar gyfer Aloud, ac fe ddywedodd:
“Rwy’n falch dros ben i fod yn Lysgennad cyntaf elusen Aloud. Mae gwaith Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud yn ysbrydoledig, nid yn unig oherwydd safon y canu, ond am roi cyfle i ferched a bechgyn ifainc ddysgu sgiliau newydd, magu hunan-hyder a dysgu i berfformio i’r safonau uchaf. Mae digon o dystiolaeth bod Aloud yn gallu trawsnewid bywydau. Pob hwyl gyda’r gwaith!”
Mae Matthew, a hyfforddwyd yn RADA, yn ganwr medrus ei hun, ac mae wedi chwarae rhannau mewn amryw o gynyrchiadau theatr cerddorol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, lle roedd yn ddisgybl ac yn gyfaill gorau i enw adnabyddus arall yn Hollywood, Ioan Gruffudd.
Fel Cyfarwyddwr Artistig Aloud, Tim Rhys-Evans, mae Matthew yntau’n credu’n gryf yn nerth gweddnewidiol cerddoriaeth ac yn credu y dylid rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau.
Mae Aloud yn awr yn cyflenwi gweithgaredd drwy dair prif gainc: Only Kids Aloud; Only Boys Aloud, sydd newydd ryddhau albwm newydd o’r enw A New Generation sydd ag ond nifer cyfyngedig wedi’u cynhyrchu; ac Academi Only Boys Aloud. At ei gilydd, mae’n nhw wedi helpu miloedd o blant o rai o’r cymunedau tlotaf yng Nghymru.
Y flwyddyn nesaf, fe fydd Aloud yn cyflwyno rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau a dathliadau i nodi 10 mlynedd ers y ffurfiwyd OBA.
Dywedodd Tim:
“Ein huchelgais erioed yn Aloud oedd ysbrydoli plant o bob math o gefndir i anelu at rywbeth. Mae cael Matthew Rhys, un o actorion mwyaf llwyddiannus y byd, i gymeradwyo’n gwaith yn y modd hwn yn dangos bod rhywbeth yn bosibl gyda gwaith caled ac ymroddiad. Rydym wrth ein bodd bod Matthew wedi derbyn ein gwahoddiad i fod yn llysgennad cyntaf i Only Boys Aloud, ac rwyf yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli’n bechgyn i fod y fersiwn orau ohonynt eu hunain, ym mha beth bynnag y maent yn dewis ei wneud.”