Mae Elusen Aloud wedi bod yn gweithio gydag Orchard Media ar gyfres ddogfen newydd a fydd yn rhoi i wylwyr fewnwelediad unigryw i waith yr elusen!
Ar ôl misoedd o gasglu darnau ffilm unigryw y tu ôl i’r llenni, rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi bydd y rhaglen gyntaf yn y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C ar Ddydd Gwener 25 Tachwedd.
Bydd y rhaglen ddogfen pedair rhan yn cynnwys ffilm o’n corau Only Boys Aloud, Only Girls Aloud, ac Only Kids Aloud. Bydd yn cael ei darlledu ar S4C drwy gydol Tachwedd a Rhagfyr.
“Mae wedi bod yn brofiad hyfryd gweithio gydag Orchard yn ystod dathlu ein 10 mlwyddiant eleni. Maent wedi bod yn rhan o’n bywydau am yr 8 mis diwethaf ac yn ystod y cyfnod hwn wedi ein helpu i sylweddoli maint yr hyn a gyflawnwyd ers sefydlu’r elusen, yn ogystal ag ers i ni ail-fywiogi ein gweithgareddau byw yn dilyn y pandemig.
Mae hwn wedi bod yn rhan bwysig o’n blwyddyn ddathlu. Gobeithiaf bydd y rhaglen yn ein helpu i ddangos i’n cefnogwyr, yn ogystal a’r cyhoedd ehangach, y gwaith sy’n mynd i wneud i’n gweithgareddau ddigwydd yn ogystal a dangos ein bod yn elusen weithgar iawn sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio â nhw.
Mae pawb sy’n rhan o wneud y rhaglen ddogfen wedi bod yn bleser i weithio gyda – dwi jyst yn gobeithio bod y bobl ifanc sy’n canu gyda ni’n sylweddoli nad yw’n arferol inni i gael camerâu yn ein dilyn lle bynnag rydym yn mynd!” Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr, The Aloud Charity
“I’ve had the pleasure of working with the young people which make up the various Aloud choirs over the last 7/8 months and have been so impressed with their attitude, work ethic and professionalism. We’ve been following their every move – during rehearsals, at their concerts, the Academi and in Lorient – and not once heard a cross word or met with any reluctance to participate in our filming. This is a very special group of youngsters and a true credit to the charity.
I’d also like to say a huge thank you to all The Aloud staff, choir leaders, community leaders as you have made our work very easy. I hope you will enjoy watching the series – and hope you think it reflects the hard work that has gone into organising the choirs and the various events of the last year and I hope we have captured the true essence of the choirs and members.” Rowena Griffin,
Cynhyrchydd
Mae 2022 yn nodi 10 mlynedd o waith Elusen Aloud i drawsnewid bywydau pobl ifanc ledled Cymru. Rydyn ni’n gobeithio bod y gwylwyr yn mwynhau gweld aelodau ein côr ar waith pan gaiff y rhaglen ddogfen ei chyhoeddi ac yn ymuno â ni wrth ddathlu etifeddiaeth enfawr a llwyddiant parhaol Elusen Aloud.
Am wybodaeth am sut i’n cefnogi ni i ddarparu’r 10 mlynedd nesaf ein taith: Cefnogwch Ni – Elusen Aloud