Yn rhan o brosiect cydweithio gyda Porthladd Aberdaugleddau, Egni Morol Cymru, Celtic Sea Power ac Offshore Renewable Energy Catapult, rydym yn falch o gyhoeddi ein cân newydd ‘If We Try’. Cafodd y gân yma ei chreu mewn sesiwn gyfansoddi gyda disgyblion o Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro i godi ymwybyddiaeth o’r egni cynaliadwy yn yr ardal ac i hyrwyddo Prosiect Doc Morol Penfro.
Ym Mai 2022, buom yn gweithio gyda disgyblion o Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro ar brosiect cyfansoddi cân. Roedd hwn yn rhan o brosiect Doc Penfro, lle mae’r gymuned yn dod at ei gilydd i greu greu gwaddol digidol yn dathlu prosiect arloesol gwerth £60 miliwn yng nghalon eu cymuned.
Mae’r gwaith ar Farina Doc Penfro yn mynd rhagddo i drawsnewid Porthladd Penfro yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer peirianneg forol a gweithgarwch ynni adnewyddadwy, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a ffyniant economaidd ar gyfer y rhanbarth.
Comisiynodd partneriaid y prosiect – Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru, Offshore Renewable Energy Catapult a Celtic Sea Power – Elusen Aloud i ddatblygu fideo cerddoriaeth yn cynnwys disgyblion ysgol lleol ac aelodau o’r gymuned i hyrwyddo’r cyfleoedd sy’n cael eu creu yn yr ardal a chreu ymdeimlad o falchder am y prosiect.
Treuliodd arweinwyr corawl o Elusen Aloud ddau ddiwrnod yn Ysgol Harri Tudur yn cynnal gweithdai cyfansoddi caneuon lle bu’r disgyblion yn cyfansoddi eu penillion eu hunain a berfformiwyd ac a ffilmiwyd yn broffesiynol. Cyfansoddwyd y gytgan gan Alex Stacey, sydd yn rhan o dîm Amy Wadge (Llysgennad Aloud).
Ar ddiwrnod olaf y prosiect, cyfarfu’r tîm â grwpiau lleol amrywiol, busnesau ac unigolion yn Noc Penfro a ymunodd yn y gân newydd ac ymddangos ar y fideo cerddoriaeth, gan gynnwys gwirfoddolwyr o Gymdeithas Treftadaeth Forol Gorllewin Cymru, Mainstay Marine Solutions a Chyngor Tref Doc Penfro.
Meddai Hollie Phillips, Cynorthwyydd Cyswllt Cymunedol Porthladd Aberdaugleddau:
“Mae wedi bod yn anhygoel cydweithio o’r dechrau i’r diwedd. Roeddem yn gallu siarad gyda disgyblion o Ysgol Harri Tudur am brosiect Morol Doc Penfro er mwyn helpu i’w hysbrydoli i ysgrifennu’r geiriau a rhoi gwybodaeth iddyn nhw am y datblygiadau sy’n digwydd yn eu tref. Gobeithio ein bod wedi sbarduno rhywfaint o ddiddordeb yn y mathau o yrfaoedd a allai fod ar gael iddyn nhw ar garreg y drws wrth i ni chwarae ein rhan yn yr ymdrech i gyrraedd targedau Sero Net y wlad, gan greu swyddi gwyrdd lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Stephen Wyatt, Cyfarwyddwr Strategaeth a Thechnoleg Newydd Offshore Renewable Energy Catapult:
“Mae ORE Catapult yn falch iawn o gael cefnogi Elusen Aloud. Rydym yn ymfalchïo mewn cael gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr a cherddorion, ac yn cael ein hysbrydoli gan eu hymrwymiad cyson i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu dyfodol gwych yn Sir Benfro a thu hwnt.”
Yn ogystal â’r cyllid a ddarperir gan bartneriaid prosiect Morol Doc Penfro, derbyniodd y gweithdai ysgrifennu caneuon a’r fideos gefnogaeth gan Celfyddydau a Busnesau Cymru. Mae Sarah Lloyd, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau, wrth ei bodd gyda’r ffordd y mae’r bartneriaeth wedi datblygu, gan ddweud,
“Mae ein rhaglen fuddsoddi CultureStep wedi’i llunio i gryfhau a datblygu’r berthynas rhwng ein busnes a phartneriaid yn y celfyddydau. Mae’r cydweithio rhwng Porthladd Aberdaugleddau ac Elusen Aloud yn enghraifft ragorol o’r rhaglen hon – mae’n gyfle delfrydol i ymgysylltu â gweithwyr, y gymuned leol, a’r genhedlaeth iau yn Ysgol Harri Tudur, gan roi cyfle iddynt fynegi eu barn ac ysbrydoli newid ar gyfer y dyfodol, tra’n cael gwerthfawrogiad cynyddol o rym y celfyddydau. Yn C&B Cymru rydym ar ben ein digon gyda’r fideo cerddoriaeth, a dylai pawb a gymerodd ran fod yn falch iawn o’r dreftadaeth ddigidol y maen nhw wedi’i chreu.”
Dywedodd Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Aloud:
Mae wedi bod yn braf iawn gweithio gyda phartneriaid Marina Doc Penfro ac Ysgol Harri Tudur i gyflawni’r prosiect ysgrifennu cân unigryw hwn. Credwn ei bod mor bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i fynegi eu barn, yn enwedig pan ddaw hi at bynciau mor bwysig â chynaliadwyedd amgylcheddol a sut maen nhw’n effeithio ar eu cymunedau lleol. Rydym yn falch iawn o’r fideo cerddoriaeth terfynol a hoffem ddiolch o galon i bobl Doc Penfro am gymryd rhan yn y prosiect.”
Mae Marina Doc Penfro yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a drwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru hefyd.
I wylio’r fideo cerddoriaeth, ewch i’n sianel YouTube.