Bywgraffiad
Roedd Elliot yn un o aelodau cyntaf OBA yn 2010. Ar ôl mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Elliot bellach yn byw yn Llundain ac yn gweithio yn Microsoft, yn arwain y sector Addysg Uwch ar gyfer Llwyfan Ceisiadau Busnes Microsoft. Ochr yn ochr â’i waith bob dydd, mae Elliot hefyd yn un o Ymddiriedolwr Aloud ac yn rhedeg TEDxLondon; rhan o raglen siarad cyhoeddus TED fyd-eang.
Pa grŵp OBA oeddet ti’n aelod ohono?
Only Treorchy Boys Aloud
Pa flynyddoedd oeddet ti’n aelod?
2010 – 2013
Beth oedd y peth gorau am fod yn OBA?
Ble i ddechrau ?! Y peth gorau i mi oedd cael y cyfle i wneud yr hyn yr oeddwn yn ei garu, gyda phobl yr oeddwn yn eu caru yn rhai o’r lleoliadau mwyaf mawreddog yn y DU a thu hwnt.
A oedd bod yn aelod o OBA wedi dy helpu i gyflawni dy nodau neu uchelgeisiau?
Yn bendant. Fe wnaeth y cyfleoedd a gefais i gynrychioli OBA ac Aloud ar y llwyfan ac ar y teledu wella fy sgiliau siarad cyhoeddus, ddysgu i mi gyfleu neges yn effeithiol a helpu i fagu hyder pan oeddwn o flaen cynulleidfa. Dyma’r holl bethau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy swydd bob dydd ac fe chwaraeodd OBA ran fawr yn y gwaith o ddatblygu’r sgiliau hynny.
Pa gyngor fyddech ti’n ei roi i fachgen sy’n ystyried ymuno ag OBA?
Mi fydd yr hobi gorau sydd gen ti a byddi di’n cael cyfleoedd nad oeddet ti erioed wedi ystyried. Creda neu beidio, mae’r darn “canu” yn canran bach o’r hyn sy’n ei wneud mor bleserus – mae’r cyfeillgarwch ymysg pawb yn ystod profiadau gwirioneddol unigryw yn rhywbeth a fydd yn aros gyda ti am byth!
Alli di grynhoi dy brofiad OBA mewn 3 gair?
Tair blynedd bythgofiadwy …