Partneriaeth Newydd gyda’r Bluestone Foundation

Newyddion

Mae The Aloud Charity yn falch o gyhoeddi y bydd corau Only Boys Aloud newydd yn dechrau ymarfer yng Ngorllewin Cymru.

Diolch i gefnogaeth prosiect o bartneriaethau gyda’r Bluestone Foundation a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae The Aloud Charity yn medru cynnig ymarferion côr wythnosol i fechgyn a dynion ifanc sy’n byw yn siroedd Gorllewin Cymru. Does dim clyweliad a dim ffi i ymuno, felly mae croeso i unrhyw fachgen oed uwchradd o bob cefndir a gallu, boed yn gantorion profiadol neu erioed wedi camu i’r byd corawl.

Sefydlwyd Only Boys Aloudyn 2010 gyda’r gobaith o allu creu gwahaniaeth i fywydau bechgyn ifanc yn eu harddegau ar draws Cymru; i fagu hyder a hunan-werth, a’u hysbrydoli i ehangu gorwelion a’udyheadau. Bellach yn un ar ddeg mlwydd oed, gyda mwy na 200 o aelodau’n mynychu corau OBA ar draws De a Gogledd Cymru, bydd The Aloud Charity yn sefydlu corau newydd yn Sir Benfro a Cheredigion, ynogystal â datblygu’r ddarpariaeth gyfredol yn Sir Gâr.

Meddai Elin Llwyd, Rheolwr Prosiect OBA Gorllewin Cymru:

“Galla’i ddim aros i sefydlu’r corau newydd yma yng Ngorllewin Cymru. Mae’n brosiect cyffrous iawn ac yn gyfle gwych i ddynion ifanc Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gâr. Bydden i’n annog unrhywun sydd â diddordeb i gofrestru nawr drwy e-bostio [email protected]

Byddyrymarferion yn dechrau yr wythnos gyntaf ar ôl Hanner Tymor (Tachwedd 1af) felly peidiwch oedi i gysylltu! Dwi ’di bodyn ddigon ffodus i fod yn dyst i’r effaith bositif gall bod yn aelod o gôr gael ar fywydau pobl ifanc. Ac ar amser pan fo lles ac iechyd meddwl yn flaenllaw iawn yn ein meddyliau, gall canu a cherddoriaeth chwarae rôl hanfodol yn annog y datblygiad o unigolion mynegiannol, agored a chreadigol ymysg y genhedlaeth yma o ddynion ifanc.”

Dywedodd Pamela McNamara, Sylfaenyddy Bluestone Foundation:

“The Bluestone Foundation was established to ‘help people to help themselves’ through environmental, economic, andsocial projects in Pembrokeshire; and we’re pleased to be supporting the Aloud Charity in its inspirational work in our local community bringing young boys together as a team to enjoy the health & wellbeing benefits of music through singing.”

Share Article:

Read another article...

OKA Launch FB
Newyddion
Only Kids Aloud 2024 – Ymgeisiwch Nawr!
370080627_1019812509229526_559886859850287902_n
Newyddion
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn cefnogi creu cerddoriaeth yn y Rhyl!
4 November 2023 - Royal British Legion
Wales Festival of Remembrance, Cardiff
Newyddion
Dathlu chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl!
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.