Fel gweddill y byd, mae’r pandemig wedi effeithio ar Aloud ac rydym wedi gorfod gwneud rhai newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n gweithio.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cadw cysylltiad â’n cannoedd o gyfranogwyr ledled Cymru, ac wedi bod yn cynnal ymarferion rhithwir ers dechrau mis Ebrill, sydd wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Mae gennym dros 150 o fechgyn yn ymuno â’u grwpiau ymarfer o bob rhan o Gymru bob wythnos, dan arweiniad eu capteiniaid tîm rheolaidd gyda chefnogaeth staff Aloud a’n Harweinwyr Cymuned gwirfoddol.
Rydym yn ymwybodol iawn bod angen cefnogaeth ar y bobl ifanc hyn, bod angen rhywfaint o normalrwydd arnynt, bod angen eu ffrindiau a’u mentoriaid arnynt a bod angen allfeydd creadigol arnynt, nawr yn fwy nag erioed,. Rydyn ni’n gobeithio bod y gweithgaredd rydyn ni’n llwyddo i’w gyflawni yn mynd rhywfaint o’r ffordd i ddarparu ar gyfer eu hanghenion.
Rydym yn falch iawn o’n fideo gwych OBA Calon Lân in Lockdown, a ‘The Prayer’, wedi’i ganu gan ein Academi OBA gwych. Os nad ydych wedi cael cyfle i weld y rhain eto, ewch i’n tudalennau Facebook ac YouTube, neu edrychwch yma:
Mae gennym hefyd fideo gwych o’n Harweinwyr Corawl yn cynnal sesiynau cynhesu llais a chorfforol ar gyfer ein hymarferion rhithwir – gwyliwch yma:
Rydyn ni’n gwylio’n gyson wrth i newidiadau i reolau’r cyfnod clo ddigwydd ac rydyn ni’n cynllunio ein gweithgaredd tymor yr Hydref gan gadw’r holl bosibiliadau mewn golwg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr amser y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd eto, yn yr un ystafell, a chanu!
“I’ve just seen a smile on [my son’s] face and a little twinkle in his eye that I’ve not seen for quite a few weeks as I told him about virtual rehearsals!! He’s absolutely thrilled! I think this is just what he needed to hear today. OBA has really enhanced his life and this morning it became really obvious how much he misses it. So once again a really big THANK YOU.”
“The virtual rehearsals are great, I’m really enjoying it. It’s great to see and sing with my friends and still learn the tracks just like in normal rehearsals. It’s the next best thing!”
Diolch enfawr i’n ffrindiau, ein cyllidwyr a’n cefnogwyr o bob cwr o’r byd sydd wedi ein helpu trwy’r amser anodd hwn. Mae gwybod eich bod chi wrth ein hochr ni yn rhoi hyder i ni ac yn ein gwneud yn benderfynol i oroesi’r pandemig hwn gyda mwy o angerdd ac uchelgais nag erioed o’r blaen.
Gobeithiwn eich bod i gyd yn ddiogel ac yn iach. Os hoffech mwy o wybodaeth am Elusen Aloud a’n gweithgaredd diweddar, cysylltwch â ni.