Ym mis Tachwedd 2022 teithiodd ein carfan Only Kids Aloud 2022 i Disneyland Paris am gyfres o berfformiadau arbennig fel rhan o raglen Disneyland, Let’s Sing Christmas!
Cafodd ein haelodau OKA y cyfle i ymarfer a pherfformio ochr yn ochr â chantorion proffesiynol Disney a Chymeriadau Disney fel rhan o bedair sioe yn Theatr Videopolis lle roedden nhw’n diddanu cynulleidfa ryngwladol o dros 1,000 o bobl.
Roedd y rhaglen perfformio yn cynnwys rhai o glasuron y Nadolig gan gynnwys “It’s the most wonderful time of the year” ochr yn ochr â threfniannau gwreiddiol Disney
Hefyd cafodd OKA y cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer gweithdy llais cyn y perfformiad wedi’i arwain gan hyfforddwr llais proffesiynol Celfyddydau Perfformio Disney a oedd yn arwain côr OKA am ei berfformiadau. Cymerodd cyfranogwyr ran mewn sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda pherfformwyr Celfyddydau Perfformio Disney i ddarganfod mwy am eu rolau a sut mae gweithio yn Disneyland!
Rhwng eu perfformiadau cafodd y bobl ifanc ddigon o gyfleoedd i grwydro o gwmpas y parc ac arhoson nhw mewn gwesty ym Mharc Disneyland.
Hwn oedd y tro cyntaf i gyfranogwyr Only Kids Aloud i berfformio yn Disneyland Paris ac roedden ni wrth ein boddau i barhau i ddatblygu’r bartneriaeth gyffroes hon.