Only Kids Aloud 2023: Dewch i glyweld!

Newyddion

Yn dilyn rhodd hael gan The Hodge Foundation, bydd plant blynyddoedd 5 a 6 o bob rhan o Gymru unwaith eto yn cael y cyfle i gael clyweliad i fod yn rhan o Gorws Only Kids Aloud.

Bydd rhaglen 2023 yn cynnwys llu o gyfleoedd:

  • Ymarferion rhanbarthol misol
  • Rhaglen o ddigwyddiadau a pherfformiadau
  • Cyrsiau preswyl

Mae plant sydd ar hyn o bryd ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen.

Mae’n costio £465 i gymryd rhan a bydd hyn yn cyfrannu at bob ymarfer a pherfformiad, cyrsiau preswyl (llety, bwyd a bysiau), gweithgareddau yn ystod y cyrsiau preswyl, ffioedd hebryngwyr trwyddedig, ac ychydig o nwyddau.

Mae cymorth ariannol (yn cynnwys cymorth bwrsariaeth lawn) ar gael er mwyn sicrhau bod unrhyw berson ifanc sy’n awyddus i ymuno â Chorws Only Kids Aloud yn gallu gwneud hynny. Cysylltwch â ni am wybodaeth ynglŷn â chymorth ariannol: [email protected] 

Y Broses Ymgeisio

Ffurflen gais ar-lein
Llenwch y ffurflen gais ar-lein erbyn 5 Chwefror 2023

Ymunwch â ni ar gyfer clyweliad a gweithdy byw
Dyddiadau isod:

Chwefror 9ed | Caerfyrddin
Chwefror 10ed | Aberystwyth

Bydd ffi o £25 i fynychu’r clyweliad unigol ac i gymryd rhan mewn gweithdy grŵp lleisiol. Cysylltwch â ni os nad oes modd i chi dalu’r ffi hwn: [email protected] 

Caiff aelodaeth Corws Only Kids Aloud 2023 ei chadarnhau ddiwedd mis Chwefror
Os bydd y pletyn yn llwyddiannus yn dilyn y clyweliad, bydd yn aelod o Gorws Only Kids Aloud 2023!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rhaglen cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected] 

Hoffem ddiolch o galon i Ymddiriedolwyr Sefydliad Hodge unwaith eto am eu cefnogaeth hael wrth gefnogi’r prosiect arbennig hwn.

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only Girls Aloud is coming to West Wales Banner
Newyddion
Only Girls Aloud yn enhangu i'r Gorllewin!
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.