ONLY KIDS ALOUD 2018 YN CYFARFOD AM Y TRO CYNTAF!

Newyddion

Ar 12 & 13 Mai, fe wnaeth ein Corws Only Kids Aloud 2018 gyfarfod am y tro cyntaf ar gyfer eu hymarfer cyntaf yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd. Darllenwch isod am y profiad!

Fy enw i yw Mack, rwy’n 11 mlwydd oed. Rwy’n byw yn Aberystwyth ac yn hoff iawn o ganu a pherfformio. Roeddwn i’n hynod gyffrous pan glywais fod clyweliadau Only Kids Aloud yn dod i Aberystwyth, gan i mi glywed amdanynt yn barod ac am Only Boys Aloud.

Ymarferais fy nghân clyweliad drosodd a throsodd ac roeddwn yn hapus i weld ychydig o ffrindiau yr oeddwn i eisoes yn adnabod yn y clyweliad. Roeddwn i’n falch iawn o weld ychydig o fechgyn hefyd, gan fod yna fwy o ferched bob amser. Roeddwn i’n nerfus ond roedd y panel yn gyfeillgar iawn ac fe wnes i fwynhau’r profiad. Pan gafodd fy mam yr e-bost yn dweud fy mod wedi cael lle yn y corws, neidiais ar y fan a’r lle a rhedeg i ddweud wrth fy athro côr yn yr ysgol.

Daeth y penwythnos preswyl cyntaf yn gyflym iawn, rydw i wedi bod yng nghanolfan yr Urdd o’r blaen ac yn gwybod ei fod yn wych – yn enwedig y bwyd. Roedd yna lawer o bobl yno pan gyrhaeddom ni ond roedd y gwarcheidwaid yn fy helpu i ymlacio. Aeth y ddau ddiwrnod nesaf mor gyflym, roedd Tim yn llawn egni a bu’n rhaid inni gadw i fyny gydag ef! Roedd yn wych – cwrddais â llawer o ffrindiau newydd, canu rhai o’m hoff ganeuon a dysgu rhai newydd cyfrinachol hefyd.

Roeddwn i’n drist i fynd adref, ond roeddwn mor flinedig, fe wnes i syrthio i gysgu ar y ffordd adref a wnaeth wneud i fy mam chwerthin achos mae’n debyg dydw i byth yn stopio am unrhyw beth.

Cyfarfûm â ffrind newydd o’r enw Tomos sy’n byw yn Aberhonddu, roeddwn yn dod ymlaen yn dda iawn ac fe wnaethon ni chwarae pwl gyda’n gilydd gyda’r nos. Roeddem wir eisiau cyfarfod fyny eto ac fe wnaethom ni lwyddo i argyhoeddi ein mamau i’n helpu ni. Daeth Tomos o Aberhonddu y penwythnos canlynol ac ymunodd â mi a’m ffrindiau ar y traeth yn Aberystwyth gan ei bod hi’n heulog iawn. Bellach mae ganddo lawer o ffrindiau yn Aberystwyth hefyd.

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y cwrs preswyl nesaf, rwy’n brysur yn ymarfer fy nghaneuon er mwyn i mi beidio gadael Tim a thîm Only Kids Aloud i lawr ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at glywed ein perfformiad terfynol!

Share Article:

Read another article...

Llwyddiant Elusen Aloud yn Japan
Newyddion
Llwyddiant Elusen Aloud yn Japan
Untitled design (4)
Newyddion
Pam Rwy'n Cefnogi Aloud
Girls
Newyddion
Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Chwilio am...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.