Only Girls Aloud yn enhangu i’r Gorllewin!

Newyddion

Pleser yw cyhoeddi ein bod yn lansio côr Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru!

Yn adeiladu ar lwyddiant ein côr Only Girls Aloud yn ne Cymru, bydd pobl ifanc ym mlwyddyn 7 hyd at flwyddyn 13 yn cael cyfle i wneud ffrindiau, datblygu eu sgiliau canu, a chymryd rhan mewn cyfleoedd perfformio unigryw!

“Rydyn ni mor gyffrous i lansio Only Girls Aloud yng Ngorllewin Cymru a rhoi cyfle i fwy o bobl ifanc gysylltu ag ymgysylltu ag eraill wrth ddatblygu eu sgiliau canu a’u hyder. Bydd Only Girls Aloud yng Ngorllewin Cymru yn darparu lle diogel a chyfeillgar i ferched ifanc fynegi eu hunain yn rhydd â chael cyfleoedd perfformio unigryw na fyddent fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt. Y rhan fwyaf cyffrous yw, fel prosiect newydd, bod aelodau sefydlu Gorllewin OGA yn cael y cyfle i lunio dyfodol y côr.” Beth Jenkins, Rheolwr Prosiect: Gorllewin Cymru 

Bydd ymarferion yn cael eu cynnal unwaith y mis yn ystod y tymor, a bwriedir cynnal ein sesiwn ymarfer gyntaf ddechrau mis Hydref. Bydd ein lleoliad cwrdd yn amrywio o fis i fis, er mwyn bodloni anghenion aelodau sy’n teithio o bob cwr o orllewin Cymru – byddwn yn cysylltu â chi mewn da bryd bob tro!

Os hoffech chi ymuno ag Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru, neu os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n hoff o ymuno, cysylltwch â ni drwy ogagorllewin@thealoudcharity.com i gofrestru eich diddordeb!

Only Girls Aloud participants are taking part in a warm up activity. Members are standing in rows in a large hall and are clapping their hands.
Two members of Only Girls Aloud are standing facing each other and clapping hands as part of a warm up game.

Bydd aelodau Only Girls Aloud gorllewin Cymru’n cael ystod o gyfleoedd i berfformio, gan gynnwys mewn cyngherddau Aloud a gwyliau a digwyddiadau allanol. Rydym yn chwilio am gyfleoedd perfformio i’n haelodau’n gyson, yn ogystal â chyfleoedd ffilmio a recordio albymau!

Er mwyn rhoi blas i chi o’r hyn sydd ar y gweill, yn ystod eu blwyddyn gyntaf, cyflawnodd aelodau côr Only Girls Aloud de Cymru y canlynol:

“Rydym yn hynod falch i allu dod â’n côr Only Girls Aloud i Orllewin Cymru. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yng Nghaerdydd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ehangu ein gwaith gyda merched yn eu harddegau, a chyda chymaint o ddiddordeb gan bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru, roedd hwn yn teimlo fel y cam naturiol nesaf i ni. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld sut mae hyn yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig sut y gallwn gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc trwy ganu torfol yn y Gorllewin.” Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr

Os ydych chi’n frwd dros y gwaith rydym yn ei wneud gyda merched ifanc yng Nghymru, ac os hoffech chi gymryd rhan, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi’r gwaith o ddarparu ein corau! I wirfoddoli gyda’n côr Only Girls Aloud newydd yng ngorllewin Cymru, anfonwch e-bost at: ogagorllewin@thealoudcharity.com

Share Article:

Read another article...

The Roberts Family in their Wrexham shirts
Newyddion
Bechgyn Wrecsam ar y llwybr i lwyddiant
Only-Boys-Aloud-Academi-St-Asaph-Concert-020
Newyddion
Academi Only Boys Aloud 2023
Jess
Newyddion
BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023 - Holi ac Ateb gyda Jess
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.