Cynhaliodd 37 o fechgyn ifanc a rhai yn eu harddegau o bob rhan o Orllewin Cymru eu cyngerdd cyhoeddus cyntaf fel Only Boys Aloud ym Mharc Gwyliau Bluestone yn Sir Benfro ar y penwythnos.
Bu’r côr yn ymarfer yn ddwys ac mewn amgylchiadau anodd yn ystod y pandemig i gyrraedd eu perfformiad cyhoeddus cyntaf, a gynhaliwyd yn y Serendome gerbron y gwesteion a oedd yn aros yn y parc gwyliau ddydd Sul.
Lansiwyd Only Boys Aloud yng Ngorllewin Cymru fis Tachwedd y llynedd, gan sefydlu corau newydd yn Sir Benfro a Cheredigion, ac ehangwyd hyn i gynnwys Sir Gaerfyrddin ar ôl derbyn cymorth ariannol gan Sefydliad Bluestone a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Ffurfiwyd y côr fel rhan o brosiect gan Elusen Aloud i helpu bechgyn ifanc a rhai yn eu harddegau o Orllewin Cymru i adeiladu eu hyder, gwella eu llesiant a hybu eu hunan-barch a’u dyheadau drwy ganu.
Mae’n cynnig ymarferion wythnosol am ddim i fechgyn a dynion ifanc rhwng 11 a 19 oed o unrhyw gefndir a gallu. Mae’n dilyn llwyddiant gwaith yr elusen yn Ne-ddwyrain Cymru lle cafodd ei lansio yn 2010.
Ym mis Ebrill, cynhaliodd y côr ei ymarfer llawn cyntaf gyda’i gilydd yn Bluestone. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn cymryd rhan yng Nghyngherddau Elusen Aloud, sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 3ydd Gorffennaf ac yn y Rhyl ar 17eg Gorffennaf lle byddan nhw’n ymuno â chorau Only Boys Aloud o’r holl ranbarthau.
Meddai Yvonne Buckingham, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Bluestone, fod y digwyddiad yn arbennig iawn i bawb sy’n ymwneud ag ef. “Fe fues i’n ddigon ffodus i’w gweld a’u clywed yn eu hymarfer llawn ym mis Ebrill ac roedd hynny’n brofiad iasol ynddo’i hun. Roedd hyn ar y lefel nesaf.
“Roedd eu perfformiad fel côr llawn ddydd Sul yn tystio i’w gwaith caled a’u dawn. Roedd nifer ohonyn nhw heb ganu erioed o’r blaen, felly roedd sefyll gerbron cynulleidfa fyw yn y Serendome yn Bluestone yn naid sylweddol o’r ymarferion. Da iawn i bob un ohonyn nhw. Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu eu cefnogi ar y daith yma.”
Meddai Elin Llwyd, Rheolwr Prosiect OBA Gorllewin Cymru: “Roedd y perfformiad ddydd Sul yn Bluestone yn brofiad mor arbennig i OBA y Gorllewin. Roedd gweld y dynion ifanc yma’n dod at ei gilydd i berfformio’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn uchafbwynt go iawn i mi, fel Rheolwr Prosiect.
“Rwy wedi bod yn dyst i daith pob un o’r bechgyn yma ers iddyn nhw ymuno â’u corau unigol yn ôl yn yr hydref ac rwy wedi gweld, drosof fy hun, yr effaith gadarnhaol mae bod yn rhan o OBA wedi’i chael ar bob unigolyn. Roedden nhw’n dangos hyder mawr a llawenydd pur wrth iddyn nhw berfformio yn Bluestone ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i’w gweld yn ymuno ag OBA y De a’r Gogledd ddydd Sul i berfformio yn Neuadd Dewi Sant. Rwy mor falch ohonyn nhw i gyd ac yn gobeithio eu bod yn teimlo’r un mor falch ohonyn nhw eu hunain.”
Lansiwyd Sefydliad Bluestone yn 2010 ac mae wedi dosbarthu dros £250,000 mewn grantiau ledled Sir Benfro. Mae’r Sefydliad yn ymdrechu i helpu pobl i’w helpu eu hunain ac yn bennaf mae’n helpu prosiectau mewn categorïau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.