Only Boys Aloud yn Japan

Newyddion

Rhwng y 6ed a’r 16eg o Hydref, teithiodd 12 aelod o’n Academi Only Boys Aloud a 3 aelod o staff ar daith anhygoel i Japan!

Dechreuodd perthynas Aloud gyda Japan dros 5 mlynedd yn ôl pan ddysgon ni blant mewn 3 ysgol yn Japan i ganu Calon Lân dros Zoom (darllenwch bopeth amdano yma). Ers hynny, comisiynon ni drefniant newydd a’i berfformio’n ddigidol gydag ysgol yn Oita a theithiodd 5 Arweinydd Côr i Japan yn 2023 i weithio gydag ysgolion yn Beppu, Oita a Tokyo. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cyllid eleni i fynd ag aelodau OBA i Japan.

Gadawodd y grŵp Maes Awyr Heathrow am y daith 14 awr i Tokyo ddydd Llun a glanio brynhawn Mawrth. Ar ôl noson i addasu i’r gwahaniaeth amser a cheisio cyfarwyddo gyda’r jet lag, deffron ni’n gynnar ddydd Mercher a neidio ar y trên bwled cyflym i Hiroshima. Ymwelon ni â’r Parc Heddwch a oedd yn brofiad swreal bod mewn lle mor ystyrlon a pherfformion ni y tu allan I Genbaku Dome, yr unig adeilad sydd wedi goroesi. Ar ôl ymweld â’r Amgueddfa, fe wnaethon ni neidio ar drên arall i Oita. Yna fe wnaethon ni aros yn Oita am ychydig ddyddiau gan ymweld â’r ardal leol gan gynnwys OPAM a Beppu a pherfformio yng ngorsaf Hofrenfad Oita. Uchafbwynt ein hamser yn Oita oedd gweithdy a pherfformiad ar y cyd â disgyblion rhagorol Ysgol Uwchradd y Celfyddydau Midorigaoka.

Aelodau OBA ym Mharc Heddwch Hiroshima
OBA gyda disgyblion Midorigaoka High School of Arts

Un o’r rhyngweithiadau mwyaf annisgwyl yn ystod ein taith i Japan oedd cyffro disgyblion yr ysgol gyntaf y gwnaethom ymweld â hi yn Oita. Ar ôl perfformio gyda chôr yr ysgol y tu allan i orsaf drenau Oita, cawsom ein synnu gan nifer y disgyblion a oedd eisiau siarad â ni a thynnu lluniau. Treulion ni amser hir yn sgwrsio â nhw am Gymru a’n profiad hyd yn hyn yn Japan, fe wnaethon ni hefyd dynnu llawer o luniau grŵp a hunluniau. Roedden nhw mor gyffrous o fod wedi perfformio gyda ni ac roedden ni wrth ein bodd yn perfformio gyda nhw, felly roedd hi mor hyfryd gweld ein brwdfrydedd dros y perfformiad a’r gerddoriaeth yn cael ei ddychwelyd. – James

Ddydd Sadwrn, teithiom i ddinas Kitakyushu lle roedd tîm Rygbi Cymru wedi’i leoli yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Y peth cyntaf a wnaethom oedd cwrdd â Chôr Plant Academi Kitakyushu a threulion ni’r prynhawn gyda nhw – yn rhannu ymarferion cynhesu ac yn dysgu caneuon i’n gilydd yn Japaneg a Chymraeg, ac yna’n eu perfformio y diwrnod canlynol yng nghanol y ddinas. Yn ystod ein hamser yn Kitakyushu, ymwelsom hefyd â Chastell Kokura, cymeron ni ran mewn seremoni de draddodiadol a pherfformion ni yn Stadiwm Byd Mikuni.

OBA ac aelodau Côr Plant Academi Kitakyushu

Roedd yn brofiad anhygoel rhannu ein cerddoriaeth Gymreig ni gyda phobl nad oeddent efallai erioed wedi clywed y Gymraeg o’r blaen, a hefyd roedd yr ymatebion gan y gynulleidfa pan ganon ni yn Japaneg yn hyfryd ac roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi’i brofi o’r blaen – Daniel

Yna roedd hi’n amser mynd yn ôl i Tokyo am ran olaf y daith. Ar ôl hedfan i faes awyr Haneda, fe wnaethon ni lwyddo i weld rhai golygfeydd enjoy a oedd yn cynnwys Asakusa, Shibuya, Shinjuku ac ymweld â’r anhyogle TeamLab Planets. Y diwrnod canlynol, cawsom y fraint fawr o gael ein gwahodd i berfformio ym Mhreswylfa’r Llysgennad yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo lle cawsom hefyd y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy drymio Taiko! Ar ein diwrnod olaf yn Japan, fe wnaethon ni berfformio yn y bore yn Ysgol Iau ac Uwchradd Metropolitan Tokyo Koishikawa cyn mynd draw i Eglwys Sant Alban i baratoi ar gyfer ein cyngerdd gyda’r nos. Mae’r eglwys gyferbyn â Thŵr enwog Tokyo Tokyo felly rhwng yr ymarfer a’r cyngerdd, fe wnaethon ni lwyddo i fynd i fyny’r tŵr yn gyflym i weld tirwedd anhygoel y ddinas. Roedd ein perfformiad olaf yn Japan yn Eglwys Sant Alban yn anhygoel ac rydym mor ddiolchgar i Gymdeithas Dewi Sant Japan a Chymdeithas Brydeinig Japan am drefnu’r cyngerdd.

Yna roedd hi’n amser mynd adref a myfyrio ar 10 diwrnod anhygoel (er yn flinedig!). Rydym mor ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y Cyngor Prydeinig, Sefydliad Daiwa a Hitachi am wneud y daith yn bosibl.

Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo
Ar groesfan Shibuya, Tokyo

I mi, fe wnaeth y daith ddangos pa mor wahanol yw’r byd, pa mor bwysig yw hanes a diwylliant a pha mor bwysig yw eu cadw a’u parchu. Mae diwylliant Japan yn gyfoethog ac yn brydferth, yn yr un modd â diwylliant Cymru. Rhaid i ni, fel Japan, ddal gafael ar ein diwylliant er mwyn i eraill ei brofi a’i ddeall – Luca

Share Article:

Read another article...

Aloud To Be (1)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Joel
Aloud To Be (3)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Rhodri
Aloud To Be (2)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Iestyn
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.