Mis diwethaf daeth 34 o fechgyn ifanc a rhai yn eu harddegau o bob rhan o Orllewin Cymru at eigilydd yn Hive, ym Mharc Gwyliau Bluestone ger Arberth yn Sir Benfro, ar gyfer eu hymarfer llawn cyntaf erioed o gangen Gorllewin Only Boys Aloud.
Ar ôl ymarfer mewn grwpiau llai ym Mhenfro, Caerfyrddin a Cheredigion, dyma oedd y tro cyntaf i aelodau OBA y Gorllewin ganu gyda’i gilydd mewn ymarfer rhanbarthol llawn! Ym mis Gorffennaf bydd y cantorion yn ymuno ag aelodau OBA eraill o Dde a Gogledd Cymru i gynnal cyfres o gyngherddau i ddathlu penblwydd Aloud yn 10 oed.
“Roedd yn foment iasol pan ddechreuodd pawb ganu gyda’i gilydd am y tro cyntaf,”
– meddai Yvonne Buckingham o Sefydliad Bluestone.
“Roedden nhw’n hollol anhygoel o ystyried mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw lwyddo i ddod at ei gilydd fel un côr. Oherwydd y pandemig, maen nhw’n aml wedi gorfod ymarfer o bell neu mewn grwpiau llai, felly roedd hon yn foment arbennig iawn iddyn nhw i gyd; roedden nhw’n ysbrydoliaeth go iawn.”
Lansiwyd Only Boys Aloud yng Ngorllewin Cymru ym mis Tachwedd y llynedd, gan sefydlu corau newydd yn Sir Benfro a Cheredigion. Llwyddom i ehangu ein presenoldeb yn Sir Gaerfyrddin ar ôl derbyn cymorth ariannol gan Sefydliad Bluestone a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Elin Llwyd, Rheolwr Prosiect Only Boys Aloud,
“Roedd hon yn foment mor bwysig i’r bechgyn. Ar ôl misoedd o ymarfer yn eu corau unigol, dyma’r cyfle cyntaf i ni ei gael i ddod â nhw i gyd at ei gilydd o dan yr un to, fel un côr.
“Rwy’n hyderus y byddan nhw i gyd yn dychwelyd i’w hymarferion wythnosol wedi’u hysbrydoli gan effaith gadarnhaol yr ymarfer ddydd Sul. I lawer, mae’r côr bellach yn rhan bwysig o’u bywydau cymdeithasol ac mae hynny’n rhan mor annatod o hanfod Only Boys Aloud.
“Fe allwn ni weld, yn uniongyrchol, sut y gall OBA wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r bechgyn ifanc yma, a bydd y recordio a’r cyngherddau sydd ar y gweill yn brofiad arbennig iawn i’r rhai sy’n cymryd rhan.”
Ychwanegodd Elin:
“Ond mae’r broses yr un mor bwysig â’r digwyddiadau mawr. Bydd yr ymarferion wythnosol, yn ogystal â’r ymarferion llawn hyn, wedi cael cymaint o effaith ar y bechgyn i gyd ac wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, a dyna pam mae Only Boys Aloud mor bwysig.”
Cafodd y bobl ifanc hefyd fwynhau sesiwn adeiladu tîm yn ystod eu hymweliad ddydd Sul, wrth i staff o Bluestone fynd â nhw ar weithgaredd weiren wib “Adrenaline” yn yr Hive.
Esboniodd Elin y manteision cymdeithasol a ddaw law yn llaw gyda OBA:
“Roedd yn wych i’r bechgyn allu gwneud y sesiwn adeiladu tîm gyda’i gilydd. Roedd yn bleser eu gweld nhw’n tynnu ’mlaen ac roedd yn cyfoethogi’r cyfeillgarwch a oedd eisoes yn datblygu. Bydd cyfeillgarwch gydol oes a lefelau hyder uwch ymhlith canlyniadau uniongyrchol y prosiect yma.”
Lansiwyd Sefydliad Bluestone yn 2010 ac mae wedi dosbarthu dros £250,000 mewn grantiau ledled Sir Benfro. Mae’r Sefydliad yn ymdrechu i helpu pobl i helpu eu hunain ac yn bennaf mae’n cynorthwyo prosiectau sy’n perthyn i gategorïau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Diolch Bluestone am eich cefnogaeth ddiflino. Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer ymarfer rhanbarthol nesaf OBA y Gorllewin yn barod! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod beth sydd ar y gweill.