Erthygl wedi ei rhyddhau gan Opera Cenedlaethol Cymru a Tŷ Crdd 22/07/22.
Mae’r gwaith Cymraeg, tair act yn gynnyrch cyfuniad artistig annisgwyl ond llwyddiannus: y cyfansoddwr ‘clasurol’ Stephen McNeff a Gruff Rhys o’r Super Furry Animals. Ar y cyd, mae’r ddau wedi creu darn o theatr-gerdd sydd wedi’i osod ddau can mlynedd wedi marwolaeth y bardd eiconig ‘Hedd Wyn’ (enw barddol Ellis Evans, a laddwyd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf ac a enillodd, wedi ei farwolaeth, Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1917).
Yn y blynyddoedd a ddilynodd, mae trychineb niwclear yn Nhrawsfynydd wedi rhwygo cymunedau o’u gwreiddiau. Mae dogn dwys o ymbelydredd wedi drysu’r gwahaniaeth rhwng gorffennol, presennol a dyfodol ac mae’r Gymraeg yn wynebu difodiant. Mae’r ddrama afaelgar yn cyfuno dyfodol dystopaidd gyda chwedlonaeth Cymru a barddoniaeth Hedd Wyn ei hun.
Comisiynwyd 2117 / Hedd Wyn ar y dechrau i’w dosbarthu yn y sinemâu gyda darllediad teledu i ddilyn, ac fe recordiwyd y sain yn 2017 gyda McNeff yn arwain y gerddorfa. Gohiriwyd y cynlluniau ar gyfer y ffilm a bu’r recordiadau’n segur ac yn hel llwch ar yriannau caled hyd at y rhyddhau yma.
Bydd yn cael ei ryddhau gyda lansiad mewn digwyddiad ar lwyfan #Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ddydd Gwener, 5 Awst am 3yp, lle bydd Gruff yn cael ei gyfweld gan Sioned Webb, a bydd y soprano Ellen Williams, y bariton Dafydd Allen a’r hyfforddwr Rhiannon Pritchard yn perfformio detholiad o’r gwaith.
Dywedodd y cyfansoddwr, Stephen McNeff: “Mae rhyddhau 2117 / Hedd Wyn yn garreg filltir yn natblygiad yr opera hon, prosiect y bûm i eisiau’i gyflawni am dros ddeng mlynedd. Mae gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru – cwmni y bûm i’n tyfu gyda nhw a’u gwylio ers fy niddordeb cynnar mewn opera – wedi bod yn ganlyniad delfrydol, felly hefyd y cydweithio gyda’r fath ystod o ddoniau creadigol mor unigryw ac amrywiol a’r goreuon ymysg cantorion ifanc Cymru.”
Meddai Gruff Rhys: “Roedd hi’n antur ac yn addysg cael gweithio gyda Stephen McNeff ar greu’r libreto i 2117 / Hedd Wyn. Roedd ei ddawn a’i frwdfrydedd yn amlwg fel bod pawb fu ynghlwm â’r darn wedi’u hysbrydoli i fynd yr ail filltir er mwyn creu’r record unigryw hon. Mae’n wych ei bod yn gweld golau dydd o’r diwedd.”
Yn ôl Emma Flatley, Cyfarwyddwr Rhaglenni WNO: “Gweithiodd y cantorion a’r perfformwyr ifanc mor galed yn natblygiad y cynhyrchiad hwn, yn gweithio ochr yn ochr â Cherddorfa WNO ac Only Boys Aloud ac mi rydw i wrth fy modd y bydd y recordiad bellach yn cael derbyn y proffil mae’n ei haeddu, i arddangos talent operatig ifanc ar ei orau yng Nghymru. Edrychwn ymlaen am gyfle i allu perfformio’r darn llawn yn y dyfodol, yn ddibynnol ar gyllido.”
Rydym yn hynod falch o Only Boys Aloud am ymddangos ar ddarn o waith mor fawreddog. Da iawn bois!
Mae 2117 / Hedd Wyn ar gael i’w archebu ymlaen llaw ac fe fydd ar gael i’w brynu ar wefan Tŷ Cerdd ac i ffrydio ar yr holl brif wefanau o 5 Awst.