Diolch i gymorth hael yr Hodge Foundation, rydyn ni’n edrych ‘mlaen yn arw at lansio Corws Only Kids Aloud newydd sbon ar gyfer 2022!
Mae croeso i blant 9-12 oed ymuno sydd ym mlynyddoedd ysgol 5, 6 a 7!
Cliciwch ar y linc isod i gwblhau’r ffuflen gais erbyn Hydref 18ed 2021.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu clyweliad unigol byw a chymryd rhan mewn gweithdy llais fydd yn digwydd mewn lleoliadau ar draws Cymru ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd ffi o £25 i fynychu’r gweithdy a’r clyweliad – os na fyddwch chi’n gallu talu’r ffi, plis cysylltwch â ni.
Os byddwch yn llwyddiannus yn dilyn y clyweliad byw, byddwch yn aelod o Gorws Only Kids Aloud 2022! Bydd y Corws yn cwrdd yn gyson yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymarferion rhanbarthol, ymarferion preswyl a pherfformiadau. Bydd ffi ymaelodi o £500. Mae’r gost ymaelodi cyfrannu tuag at y canlynol rhwng Ionawr a Rhagfyr 2022:
- Sesiynnau Setlo-i-Fewn Rhanbarthol. Byddwch yn mynychu sesiwn yn eich rhanbarth chi – byddant yn y Gogledd, Canolbarth a De Cymru. Croeso i rieni / warchodwyr fynychu rhain – byddant yn cael eu cynnal ar un dydd Sul y mis.
- Ymarferion rhanbarthol. Byddwch yn mynychu sesiwn yn eich rhanbarth chi – byddant yn y Gogledd, Canolbarth a De Cymru. Byddant yn cael eu cynnal ar un dydd Sul y mis.
- 2 x Cyrsiau preswyl. Cwrs Pasg a chwrs haf – llety, bwyd, trafnidiaeth a gweithgareddau cymdeithasol yn gynwysiedig.
- Perfformiadau a chyngherddau (llety, bwyd a thrafnidiaeth yn gynwysiedig)
- Chaperones trwyddedig (bydd eich plant o dan ofal chaperones trwyddedig tra’n ymgymryd â gweithgareddau corws Only Kids Aloud)
- Merchandise Only Kids Aloud.
Bydd nifer o opsiynnau am gymorth ariannol ar gael gan gynnwys bwrseriaethau llawn ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau, cysylltwch drwy e-bost: [email protected]