Ar 2 Tachwedd darparodd 30 o gyfranogwyr o’n corau Only Boys Aloud yn Ne Cymru berfformiad arbennig i fynychwyr Gwobrau Caws y Byd 2022 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.
Mae Gwobrau Caws y Byd yn ddigwyddiad byd-eang sy’n dod â chawswyr, adwerthwyr, defnyddwyr a sylwebwyr bwyd ynghyd o bob cwr o’r byd. Roedd 250 o farnwyr yn blasu a rhestru bron i 4,000 o gawsiau o dros 40 gwlad.
Roedd digwyddiad 2022 i fod i gael ei gynnal yn Wcráin, ond gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru cynhaliwyd yng Nghymru yn lle.
Rhoddodd cyfranogwyr o gorau Only Boys Aloud o Ferthyr, Cwmbrân, Caerffili a Chaerdydd berfformiad brwd o ganeuon traddodiadol Cymraeg Sosban Fach a Chalon Lân i ddechrau’r barnu. Parhaodd y dydd gyda Marchnad Caws y Byd digwyddiad i unrhyw un sy’n prynu, gwerth a gwneud caws mewn amgylchedd masnachol.
“We were delighted to have been asked to showcase Wales as part of The World Cheese Awards and were excited to be back singing in the ICC again” Julia Tucker, Rheolwr Cystlltiadau/Rheolwr Prosiect Merched Aloud Girls
Roedd y Gwobrau yn gyfle anhygoel i’n cyfranogwyr Only Boys Aloud ac roedden ni’n falch i allu arddangos talent ifanc o Gymru fel rhan o’r digwyddiad rhyngwladol hwn.