Ar ddydd Sadwrn 27ain o Orffennaf 2019, cafodd aelodau Only Boys Aloud y de y cyfle anhygoel i gymryd rhan yn Seremoni Agoriadol Cwpan y Byd Digartref ym Mharc Bute yng Nghaerdydd. Twrnamaint pêl-droed blynyddol yw Cwpan y Byd Digartref a drefnir gan Sefydliad Cwpan y Byd Digartref, sefydliad cymdeithasol sy’n cefnogi diwedd digartrefedd trwy bêl-droed. Am y tro cyntaf erioed roedd yn cael ei gynnal yng Nghymru ac roedd yn fraint canu yn y Seremoni Agoriadol. Yn ogystal â’r dorf o gystadleuwyr a chefnogwyr, fe wnaethon ni berfformio o flaen Mel Young, cyd-sylfaenydd y gemau a Michael Sheen a agorodd y gemau yn swyddogol. Fe wnaethon ni hyd yn oed cael y cyfle i gwrdd â Michael Sheen ar ôl ein perfformiad a chael llun! Roeddem hefyd yn ddigon ffodus i ganu’r anthem gyda Shellyann Evans, enillydd rhaglen All Together Now BBC One yn 2019.
Ffordd wych o ddod â gweithgareddau tymor haf grwpiau OBA y De i ben!