Ar ddydd Iau 18fed o Ionawr 2018, cafodd 4 aelod o Only Boys Aloud sy’n fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, y fraint o berfformio ar gyfer y Tywysog Harri a Ms Meghan Markle ar eu hymweliad cyntaf â Chaerdydd.
Ymgasglodd cannoedd o bobl yng Nghastell Caerdydd i groesawu’r ddau ac ar ôl treulio awr yn sgwrsio â’r ymwelwyr y tu allan, aeth y Tywysog a Ms Markle mewn i’r Castell er mwyn cal blas o ddiwylliant Cymreig.
Fe wnaeth y pedwar aelod o OBA – Rhys, Callum, Tomos a Harvey – ganu fersiwn Calon Lân Only Boys Aloud iddynt (beth arall?!) gyda’n Cyfarwyddwr Celfyddydol, Tim, ar y piano. Fe fwynhaodd y Tywysog Harry a Ms Markle y perfformiad yn fawr iawn gyda’r Tywysog Harri yn dweud wrth ei briodferch am ei werthfawrogiad am ganu Cymraeg – “Glywi di’r canu gorau yng Nghymru,” meddai.
Heb os, roedd yn brofiad bythgofiadwy i’r bechgyn, un a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod mae’n siwr.
Darllenwch mwy am ymweliad y Tywysog YMA