Sefydlwyd OBA yn 2010 gyda’r gobaith o allu creu gwahaniaeth i fywydau bechgyn ifanc yn eu harddegau ar draws Cymru; i fagu hyder a hunan-werth, a’u hysbrydoli i ehangu gorwelion a dyheadau. Bellach yn 11 mlwydd oed, gyda mwy na 200 o aelodau’n mynychu corau ar draws De a Gogledd Cymru, y bwriad yw sefydlu corau newydd yn Sir Benfro a Cheredigion, yn ogystal â datblygu’r ddarpariaeth gyfredol yn Sir Gâr.
Diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Bluestone am gefnogi’r prosiect peilot hwn.
Mae croeso i unrhyw fachgen rhwng 11-19oed o bob cefndir a gallu, boed yn gantorion profiadol neu erioed wedi camu i’r byd corawl.
Does dim clyweliad a dim ffi.
Os ydych chi’n byw’n lleol i’r siroedd yma ac awydd ymuno â chôr Only Boys Aloud, bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych!
Cysylltwch nawr am fwy o wybodaeth ac i gofrestru’ch diddordeb: [email protected]
Rydyn ni hefyd yn recriwtio Arweinyddion Côr newydd i ymuno â’n tîm ar gyfer y prosiect cyffrous yma. A’i chi yw hwn? Darllenwch mwy yma.