Mae’r sefydliad canu ieuenctid Cymru gyfan, Elusen Aloud, yn cynnal rhith-gyngerdd Nadolig nos Sul hon (yr 20fed o Ragfyr) i ddarparu rhywfaint o lawenydd yr ŵyl.
Bydd y cyngerdd ysbrydoledig, rhad ac am ddim, sy’n cynnwys Only Boys Aloud, ynghyd â gwesteion arbennig, yn perfformio repertoire amrywiol, yn ogystal â ffefrynnau tymhorol. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 5:00yp, ac fe fydd yna lawer o gyfleoedd drwy gydol y perfformiad i roddi i’r elusen.
Fel llawer o ensemblau, mae Only Boys Aloud wedi troi at rihyrsals ar-lein eleni. Gyda chymorth Arweinwyr eu Tîm, mae’r côr – a chanddo 250 o aelodau – wedi parhau i ymarfer yn rhithiol, gan brofi buddion ac undod canu corawl er gwaethaf y ffaith nad ydynt gyda’i gilydd yn gorfforol.
Mae’r grŵp hefyd wedi cydweithredu ar brosiectau perfformio cyffrous gyda’r cyn-aelod, Tom Hier, a’r seren theatr gerddorol, Sophie Evans, drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Rachel Dominy, Prif Weithredwr Elusen Aloud: “Rydym yn wirioneddol wrth ein boddau o gynnal ein rhith-gyngerdd Nadolig cyntaf ddydd Sul. Yn yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn lawn her i gynifer o bobl, gobeithiwn gludo’n cynulleidfa i ffwrdd i fyd Elusen Aloud am y noson.
“Fe wnaed argraff mor dda arnom gan sut y gwnaeth aelodau Only Boys Aloud gofleidio’n gadarnhaol y newidiadau i rihyrsals eleni, ac fe fydd y cyngerdd yn ddathliad o’r gwaith eithriadol y maent wedi’i gynhyrchu wrth ddysgu’n rhithiol. Mae’n argoeli i fod yn wledd Nadolig go iawn, ac felly rydym yn annog pobl i brynu’u tocynnau yn awr i sicrhau nad ydynt yn colli’r cyngerdd!”
Gellir prynu tocynnau ar gyfer eu cyngerdd Nadolig rhad ac am ddim drwy https://www.eventbrite.com/e/only-boys-aloud-virtual-christmas-concert-tickets-127989085801