Wedi ei gefnogi gan Sefydliad Bluestone a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae’n prosiect Only Boys Aloud newydd yng Ngorllewin Cymru yn profi’n llwyddiannus! Rydym ar ben ein digon gyda’r nifer o fechgyn ifanc sydd wedi ymuno â’n corau yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Cawsom sgwrs gyda un aelod newydd yn y Gorllewin i weld sut y mae’n mwynhau OBA hyd yma…
Sgwrs gyda Noah
Mae Noah Pooley yn aelod newydd o OBA ers lansio y prosiect yn y gorllewin yn Tachwedd 2021, a dywedodd fod y profiad eisoes wedi ei wneud yn fwy hyderus yn ystod y misoedd ers ymuno â’r côr.
Dywedodd y gofalwr ifanc 17 oed o Benfro, sy’n gofalu am ei chwaer ac a ddechreuodd weithio ym mharc gwyliau cenedlaethol Bluestone, Arberth yn ddiweddar, er ei fod yn casáu ei lais canu, bod y côr yn llawer mwy na chanu iddo:
‘Rwy’n credu mai’r prif beth sy’n sefyll allan i mi yw pa mor gynhwysol ydy’r côr. Roeddwn i’n casáu fy llais canu (ac ar adegau yn dal i wneud). Pan ddechreuais gyda’r côr, doeddwn i ddim yn hyderus o gwbl, ond mae OBA yn wahanol – yn hytrach na’i weld fel rhywbeth proffesiynol sydd yn rhaid i chi fod yn dda am ei wneud i gymryd rhan, mae fel petai rhywun yn eistedd yno’n dweud:“Does dim ots gen i pa mor dda neu ddrwg rwyt ti’n canu, jest der draw. Der i gael hwyl, i gymdeithasu, ac i’w fwynhau.”
Ymunodd Noah gyda’r côr am y cyfle i gymdeithasu mwy:
“Mae’n braf oherwydd mae ystod eang iawn o bobl ifanc o gefndiroedd gwahanol ac felly mae’r sgyrsiau yn braf, rydych yn darganfod pethau am eich gilydd na fyddech fel arall yn gwybod amdano. Hyd yn oed os ydych yn ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol, rydych yn dysgu pethau gwahanol a newydd amdanynt. Felly mae’n braf cael sgyrsiau gwahanol, a dod i adnabod pobl wahanol ar draws yr ardal.”
“Roedd yn le cynnes, braf o’r cychwyn cyntaf, lle’r oedd pawb yn teimlo eu bod yn ddiogel i siarad, yn ddiogel i fod pwy ydyn nhw, yn hytrach na phawb yn eistedd yn llym ac yn dweud, “gwna hyn, gwna’r llall”. Mae’n fwy “Beth wyt ti eisiau ei wneud fel person ifanc? Sut gallwn ni dy helpu i gyrraedd lle rwyt ti am fynd” – yn hytrach na rhywun yn dweud wrthym ble dylem ni fod.”
Mae’n corau newydd yn cael eu cefnogi gan Sefydliad Bluestone a sefydlwyd yn 2010. Ers hynny maent wedi rhannu dros £250,000 o grantiau ar draws Sir Benfro.
Ym mis Gorffennaf, byddwn yn cynnal dau gyngerdd dathlu deng mlwyddiant Elusen Aloud lle bydd rhai o’n aelodau newydd o’r Gorllewin yn cael cyfle i ganu gyda grwpiau eraill. Byddant hefyd i’w clywed ar ein albwm newydd sy’n cael ei ryddhau i nodi’r achlysur.
Dywedodd Hannah Beadsworth, ein Rheolwr Datblygu, fod Noah yn enghraifft nodweddiadol o aelodau’r côr:
“Mae Noah yn gofalu am ei chwaer ac yn gweithio ac felly does ganddo ddim llawer o amser i gymdeithasu. Ac os yw’n gwneud hynny, efallai na fydd hynny gyda grŵp eang o bobl lle gall siarad yn agored neu wneud ffrindiau newydd. Dyna lle mae OBA yn wahanol, ac rydyn ni’n defnyddio canu i helpu.”
“Ysbrydiolaeth i ni gyd…”
Dywedodd Yvonne Buckingham o Sefydliad Bluestone fod Noah wedi bod yn ysbrydoliaeth a’i fod yn enghraifft o’r math o berson ifanc mae OBA yn ei gefnogi:
“Mae OBA eisoes wedi helpu cannoedd o fechgyn ifanc yn eu harddegau a dynion ifanc yng Nghymru. Roedden ni am eu helpu i estyn allan at lawer mwy yng ngorllewin Cymru lle mae’r un materion yn effeithio ar bobl ag y maent yn ei wneud mewn unrhyw le arall. Drwy ddarparu cymorth ariannol rydyn ni’n gwybod y gallan nhw fynychu’r gwersi côr wythnosol a dod at ei gilydd, a pharatoi at y cyngherddau ym mis Gorffennaf. Mae cymaint o bobl ifanc yn elwa o’r elusen.”
Dywedodd Noah fod canu wedi ei helpu mewn amryw o ffyrdd. Mae’n lysgennad i bobl ifanc sydd â phroblemau cymdeithasol, lles a iechyd meddwl sydd ddim yn cael eu trafod yn aml iawn mewn ardaloedd gwledig fel Gorllewin Cymru.
Ychwanegodd:
“Rydw i ar ganol llunio cyfres gyfan o areithiau am griau tawel y genhedlaeth ifanc. Gobeithio y bydd hynny i gyd yn cael ei lansio ym mis Mehefin os aiff popeth yn iawn. Rwy’n bwriadu gwneud ymgyrch i’w wthio allan cyn belled ag y gallaf, a gobeithio cynnwys ambell bodlediad a stori newyddion. Mae’r hyder ychwanegol sydd gen i o ganu wedi gwneud i mi feddwl “chi’n gwybod beth, does dim ots gen i beth mae pobl yn ei feddwl pan maen nhw’n ei glywed”. Os yw’n helpu un neu ddau o bobl, ac yn gwneud i un neu ddau o bobl wenu, dyna’r cyfan rwy’n poeni amdano.”
Dywedodd Elin Llwyd, Rheolwr Prosiect Only Boys Aloud y Gorllewin:
“Dydyn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw allu canu o’r cychwyn cyntaf. Mae’n ymwneud â chynnig amgylchedd diogel, cyfforddus a chroesawgar iddyn nhw gymysgu a chymdeithasu â phobl ifanc o’r un anian. Mae eu gallu canu yn datblygu’n naturiol fel rhan o’r broses hon wrth i ni eu helpu a’u hannog i gymdeithasu mwy, gan gynyddu eu hunan-barch a’u lefelau hyder ar yr un pryd.”
I ymuno â chor plis cliciwch yma. Mae mwy o wybodaeth am Sefydliad Bluestone ar gael yma.