Llwyddiant Elusen Aloud yn Japan

Newyddion

Drwy bartneriaeth rhwng Elusen Aloud, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Llywodraeth Cymru, mae Elusen Aloud wedi bod yn gweithio gyda channoedd o bobl ifanc yn Japan fel rhan o raglen barhaus o gyfnewid diwylliannol. 

Yng ngwanwyn 2020, roedd Elusen Aloud yn edrych ymlaen yn eiddgar i bobl ifanc o gorau Only Boys Aloud berfformio yn Japan, yn dilyn partneriaeth newydd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, British Council, a Llysgenhadaeth Japan Er i’r daith hon gael ei chanslo o ganlyniad i bandemig COVID-19, roedd y partneriaid yn benderfynol o gadw’r prosiect canu yn fyw. 

Yn 2021, lansiodd Elusen Aloud brosiect corawl rhithwir gydag aelodau o gorau Only Boys Aloud o bob rhan o Gymru a thri chôr plant dros 6000 o filltiroedd i ffwrdd yn Kitakyushu, Kumamoto, ac Oita. 

Yn dilyn y bartneriaeth gychwynnol hon, yng ngwanwyn 2023 parhaodd Elusen Aloud â’u gwaith gydag un o’r ysgolion partner, wrth i aelodau corau Only Boys Aloud a disgyblion o Ysgol Uwchradd Midorigaoka ddysgu a recordio trefniant dwyieithog newydd o ‘Hiraeth’ yn Gymraeg a Japanaeg. 

Roedd aelodau Only Boys Aloud wrth eu bodd yn canu yn Japanaeg am y tro cyntaf. Lansiwyd fideo newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023 i nodi blwyddyn ers y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lywyddiaethol Oita: 

Rhwng 22 Chwefror a 3 Mawrth 2023 aeth tîm o Elusen Aloud ar ymweliad â Japan i hyrwyddo gwaith yr elusen a sefydlu partneriaethau newydd ar gyfer cam nesaf y cydweithio cyffrous yma. Cynhaliodd y tîm weithdai mewn 3 ysgol gan gyflwyno disgyblion a phobl Japan i repertoire Only Boys Aloud, yn ogystal â meithrin cysylltiadau â swyddogion llywodraeth leol, adrannau celfyddydol a diwylliannol a chwmnïau sydd â chanolfannau yng Nghymru. Bu arweinwyr y corau hefyd yn dysgu repertoire Japaneaidd i’w defnyddio yn ymarferion corau Only Boys Aloud ym Mhrydain.

Roedd y daith yn galluogi’r tîm i archwilio ystod o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol ar gyfer aelodau corau Only Boys Aloud a phobl ifanc yn Japan. 

“We had a fantastic trip over to Japan. It has been amazing celebrating our two cultures and being able to introduce our Welsh music to the people there. The people we met were all very interested in the work we were doing and to hear about our long-term aspirations to take our singers over there. The workshops we led were hugely enjoyable and it’s great to see that the language of music can travel over 6000 miles.  I hope that this is the beginning of a long standing partnership between our two countries and we look forward to working with them again in the near future. This was all of our first visit to Japan and we hope that is won’t be our last.” Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol, The Aloud Charity

“Connecting new generations across the world feels ever more important. This project between Aloud and schools in Oita places young people at its heart. It has already illustrated that music is an incredibly powerful tool for sharing experiences and for understanding different cultures and languages, whether virtually or in person. With strong foundations now in place, we’re excited to see these new links between Wales and Japan blossom in the coming years.”  Nicola Morgan, Uwch Swyddog Rhyngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Mae Elusen Aloud yn falch o fod yn parhau â’n rhaglen o gyfnewid diwylliannol gydag ysgolion yn Japan, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru a Japan brofi a dysgu am ieithoedd a diwylliannau ei gilydd. 

Share Article:

Read another article...

OKA Launch FB
Newyddion
Only Kids Aloud 2024 – Ymgeisiwch Nawr!
370080627_1019812509229526_559886859850287902_n
Newyddion
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn cefnogi creu cerddoriaeth yn y Rhyl!
4 November 2023 - Royal British Legion
Wales Festival of Remembrance, Cardiff
Newyddion
Dathlu chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl!
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.