Llwyddiant! Albwm Elusen Aloud

Newyddion

Wedi deng wythnos o ymgyrchu a chodi arian, mae’ch cefnogaeth wedi ein caniatáu i fynd ati i recordio albwm newydd sbon i ddathlu troi’n 10 oed eleni!

Ar ôl gosod targed codi arian uchelgeisiol o £10,000, rydym yn falch o allu cyhoeddi ein bod wedi bwrw’n uwch na’n gobeithion gyda £14,410 wedi cael ei godi trwy gyfraniadau ar lein ac oddi-ar lein.  

Gan gynnwys cymysgedd o ganeuon traddodiadol Cymraeg a chaneuon o fyd y sioeau cerdd a phop, bydd y CD hwn yn dathlu lleisiau trawiadol Only Boys Aloud, Only Kids Aloud a chôr newydd Merched Aloud Girls.  Byddwn nawr yn mynd ati i baratoi ar gyfer ein sesiynau recordio yn y stiwdio a fydd yn digwydd yn hwyrach ymlaen yn y gwanwyn.

Rydym mor ddiolchgar o’r gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn dros y deufis diwethaf, gyda chyfraniadau wedi dod o bob cwr o’r byd. Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch a sicrhau bod yr albwm yn gallu digwydd. 

Ynghŷd â’r cyngherddau Dathlu 10 ym mis Gorffennaf, bydd yr albwm yn lwyfan berffaith i arddangos ein holl waith dros y deng mlynedd diwethaf a dathlu talent ac ymroddiad pob aelod côr 

Dywedodd Carys Wynne-Morgan, ein Prif Weithredwr:

“Rydym wrth ein boddau o gyrraedd ein penblwydd yn 10 oed. Mae’n tystio i waith caled, ymroddiad ac angerdd y staff, cantorion, gwirfoddolwyr a chefnogwyr dros y ddegawd diwethaf. Mae’n teimlo addas ein bod yn dathlu’r garreg filltir hon gyda dau gyngerdd penblwydd ym mis Gorffennaf yn ogystal â recordio albwm newydd i arddangos ein holl gorau. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwneud y 10 mlynedd diwethaf yn bosib ac rwy’n edrych ymlaen i’r hyn a gyflawnwn gyda’n gilydd dros y 10 mlynedd nesaf.”  

O dderbyn clod cenedlaethol ar ôl dod yn drydydd ar Britain’s Got Talent, perfformio yn Ypres (Gwlad Belg) i gofio bywyd y Prifardd Hedd Wyn, a fersiwn fideo Only Boys Aloud o ‘Calon Lân’ wedi cael ei wylio dros 30 miliwn o weithiau ar Youtube, rydym yn hynod falch o’r holl yr ydym wedi ei gyflawni.

Rydym wedi ehangu ein gweithgareddau i gynnwys plant a merched drwy Only Kids Aloud a’r prosiect peilot Merched Aloud Girls, gan sicrhau fod unrhyw berson yng Nghymru sydd eisiau canu yn cael y cyfle i wneud hynny 

Diolch yn fawr unwaith eto i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y deng mlynedd diwethaf, ac i bawb sydd wedi cyfrannu neu rannu’r ymgyrch codi arian. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai modd i ni ddarparu cyfleoedd mor unigryw i bobl ifanc Cymru.  

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich gwobrau a’r albwm pan y gaiff ei ryddhau yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn.

Diolch yn fawr!

Share Article:

Read another article...

OKA Launch FB
Newyddion
Only Kids Aloud 2024 – Ymgeisiwch Nawr!
370080627_1019812509229526_559886859850287902_n
Newyddion
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn cefnogi creu cerddoriaeth yn y Rhyl!
4 November 2023 - Royal British Legion
Wales Festival of Remembrance, Cardiff
Newyddion
Dathlu chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl!
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Enter your search...

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.