Mae Elusen Aloud yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ymgyrch Ariannu Cyfatebol newydd i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Between the 15th to 22nd May, the charity will aim to raise £5,000 through donations, with every pound donated matched by the Big Give Trust, effectively doubling the impact of supporters’ donations to a potential amount of £10,000. Rhwng 15 a 22 Mai, bydd yr elusen yn ymdrechu i godi £5,000 drwy roddion, gyda phob punt a roddir yn cael ei chyfateb gan Big Give Trust, a all o bosib ddyblu’r swm a roddir gan gefnogwyr i £10,000.
Ers ei sefydlu yn 2010, gweithiodd Elusen Aloud yn ddiflino i drawsnewid bywydau pobl ifanc o bob cwr o Gymru, drwy gynnig mannau diogel a chymdeithasol i bobl ifanc wneud ffrindiau a magu hyder drwy ganu.
Mae pobl ifanc yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, gyda lefelau hyder yn gostwng yn aruthrol a gorbryder cymdeithasol yn codi. Yn 2023, mewn holiadur i aelodau o gorau Aloud, nododd 22% eu bod, yn y gorffennol, wedi cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Bydd yr arian a godwyd drwy ymgyrch Kind²Mind yn gwneud byd o wahaniaeth i lesiant pobl ifanc.
Dywedodd Pat, Arweinydd Cymunedol a mentor i aelodau Aloud:
“I must say I’m very pleased that I’m not a teenager in 2023. I think the pressures that they’re facing at the moment are beyond anything that any of us would have faced before now. I think it’s a very, very difficult time.
“Organisations like Aloud come into their own because they create a safe, secure, and caring environment. The singing is joyous, it’s wonderful, but Aloud is so much more than that. I have watched from the beginning, boys building in confidence and growing in confidence through being mentored.
“Aloud Choir Leaders are the best role models in the world as far as I’m concerned!”
Mae corau Aloud yn ceisio gwella hunan-sicrwydd, ehangu dyheadau, a chreu ymdeimlad cryf o berthyn i aelodau.
Mewn holiadur diweddar:
- nododd 79% o aelodau eu bod yn teimlo’n “fwy hyderus”
- disgrifiodd 42% eu hunain fel “person mwy hapus”
- dywedodd 43% bod y gweithgaredd wedi gwella eu llesiant cyffredinol
dywedodd 96% eu bod yn cael “cefnogaeth dda” gan eu Harweinydd Côr lleol yn ystod ymarferion wythnosol gydag un aelod yn dweud
“Choir rehearsal helps me get through my week easier, with my mental health problems and it is always something to look forward to.” Aelod Only Boys Aloud
Mae gan Elusen Aloud hanes profedig o ddarparu corau di-glyweliad, effaith uchel, rhad ac am ddim sydd wedi gwella ansawdd bywyd i gannoedd o bobl ifanc ledled Cymru drwy gynnig cyfleoedd unigryw na fyddent byth o bosib wedi cael profiad ohonynt fel arall.
Bydd cyfrannu i’n hymgyrch Kind²Mind rhwng 15 a 22 Mai yn galluogi Elusen Aloud i:
- Ddarparu ymarferion côr rheolaidd i helpu i godi hyder a hunan-sicrwydd pobl ifanc yng Nghymru.
- Cynnig cyfle i aelodau côr gymryd rhan mewn profiad perfformio cyffrous. Bydd hyn yn codi dyheadau, cryfhau cyfeillgarwch ac ehangu gorwelion yn ogystal â gwella sgiliau meddal megis gwaith tîm ac empathi.
- Darparu hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol i Arweinwyr a Staff Corau Aloud.
- Parhau i ddatblygu ein porth digidol ar-lein sy’n cefnogi dysgu cerddoriaeth yn gynhwysol ac yn cyfeirio mynediad at gymorth iechyd meddwl drwy adnoddau digidol pwrpasol.
- Datblygu partneriaeth ag elusen neu sefydliad lleol i gefnogi llesiant iechyd meddwl aelodau côr.
Speaking about the campaign, Hannah Beadsworth (Aloud’s Development Manager) said Dywedodd Hannah Beadsworth (Rheolwr Datblygu Aloud) wrth drafod yr ymgyrch,
“We are really excited to launch this important fundraising campaign. Our page will be live for one week only, so please spread the word to support our cause and help us achieve our target!
This is a unique opportunity for individuals and organisations to make a difference to their local community, especially as any contribution will be doubled!
A donation of £10 will provide a free hour of rehearsal for Aloud members, so please give generously. Thank you so much!”
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch ac i gyfrannu rhwng 15 a 22 Mai, ewch i dudalen Ymgyrch Kind²Mind Aloud yma.